Welsh

Genesis

39

1 Cymerwyd Joseff i lawr i'r Aifft, a phrynwyd ef o law yr Ismaeliaid, a oedd wedi mynd ag ef yno, gan Potiffar, Eifftiwr oedd yn swyddog i Pharo ac yn bennaeth y gwarchodwyr. 2 Bu'r ARGLWYDD gyda Joseff, a daeth yn u373?r llwyddiannus. Yr oedd yn byw yn nhu375? ei feistr yr Eifftiwr, 3 a gwelodd ei feistr fod yr ARGLWYDD gydag ef, a bod yr ARGLWYDD yn llwyddo popeth yr oedd yn ei wneud. 4 Cafodd Joseff ffafr yn ei olwg, a bu'n gweini arno; gwnaeth yntau ef yn arolygydd ar ei du375? a rhoi ei holl eiddo dan ei ofal. 5 Ac o'r amser y gwnaeth ef yn arolygydd ar ei du375? ac ar ei holl eiddo, bendithiodd yr ARGLWYDD du375?'r Eifftiwr er mwyn Joseff; yr oedd bendith yr ARGLWYDD ar ei holl eiddo, yn y tu375? ac yn y maes. 6 Gadawodd ei holl eiddo yng ngofal Joseff, ac nid oedd gofal arno am ddim ond y bwyd yr oedd yn ei fwyta. Yr oedd Joseff yn olygus a gl�n, 7 ac ymhen amser rhoddodd gwraig ei feistr ei bryd ar Joseff a dweud, "Gorwedd gyda mi." 8 Ond gwrthododd, a dweud wrth wraig ei feistr, "Nid oes gofal ar fy meistr am ddim yn y tu375?; y mae wedi rhoi ei holl eiddo yn fy ngofal i. 9 Nid oes neb yn fwy na mi yn y tu375? hwn, ac nid yw wedi cadw dim oddi wrthyf ond tydi, am mai ei wraig wyt. Sut felly y gwnawn i y drwg mawr hwn, a phechu yn erbyn Duw?" 10 Ac er iddi grefu ar Joseff beunydd, ni wrandawodd arni; ni orweddodd gyda hi na chymdeithasu � hi. 11 Ond un diwrnod, pan aeth i'r tu375? ynglu375?n �'i waith, heb fod neb o weision y tu375? yno, 12 fe'i daliodd ef gerfydd ei wisg, a dweud, "Gorwedd gyda mi." Ond gadawodd ef ei wisg yn ei llaw a ffoi allan. 13 Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei wisg yn ei llaw, a ffoi allan, 14 galwodd ar weision ei thu375? a dweud wrthynt, "Gwelwch, y mae wedi dod � Hebr�wr atom i'n gwaradwyddo; daeth ataf i orwedd gyda mi, a gwaeddais innau yn uchel. 15 Pan glywodd fi'n codi fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan." 16 Yna cadwodd wisg Joseff yn ei hymyl nes i'w feistr ddod adref, 17 ac adroddodd yr un stori wrtho ef, a dweud, "Daeth y gwas o Hebr�wr, a ddygaist i'n plith, i mewn ataf i'm gwaradwyddo; 18 ond pan godais fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan." 19 Pan glywodd meistr Joseff ei wraig yn dweud wrtho am yr hyn a wnaeth ei was iddi, enynnodd ei lid. 20 Cymerodd Joseff a'i roi yn y carchar, lle'r oedd carcharorion y brenin yn gaeth; ac yno y bu yn y carchar. 21 Ond yr oedd yr ARGLWYDD gyda Joseff, a bu'n drugarog wrtho a rhoi ffafr iddo yng ngolwg ceidwad y carchar. 22 Rhoes ceidwad y carchar yr holl garcharorion yng ngofal Joseff, ac ef fyddai'n gwneud beth bynnag oedd i'w wneud yno. 23 Nid oedd ceidwad y carchar yn pryderu am ddim a oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag ef ac yn ei lwyddo ym mha beth bynnag y byddai'n ei wneud.