Welsh

Genesis

40

1 Wedi'r pethau hyn, troseddodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft. 2 Ffromodd Pharo wrth ei ddau swyddog, y pen-trulliad a'r pen-pobydd, 3 a'u rhoi yn y ddalfa yn nhu375? pennaeth y gwarchodwyr, sef y carchar lle'r oedd Joseff yn gaeth. 4 Trefnodd pennaeth y gwarchodwyr i Joseff ofalu amdanynt a gweini arnynt. Wedi iddynt fod yn y ddalfa am ysbaid, 5 cafodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft, a oedd yn gaeth yn y carchar, freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun. 6 Pan ddaeth Joseff atynt yn y bore, ac edrych arnynt a'u gweld yn ddi-hwyl, 7 gofynnodd i swyddogion Pharo a oedd gydag ef yn y ddalfa yn nhu375? ei feistr, "Pam y mae golwg ddigalon arnoch heddiw?" 8 Atebasant, "Cawsom freuddwydion, ac nid oes neb i'w dehongli." Yna dywedodd Joseff wrthynt, "Onid i Dduw y perthyn dehongli? Dywedwch yn awr i mi." 9 Felly adroddodd y pen-trulliad ei freuddwyd i Joseff, a dweud wrtho, "Yn fy mreuddwyd yr oedd gwinwydden o'm blaen, 10 ac ar y winwydden dair cangen; yna blagurodd, blodeuodd, ac aeddfedodd ei grawnsypiau yn rawnwin. 11 Yn fy llaw yr oedd cwpan Pharo; cymerais y grawnwin, eu gwasgu i gwpan Pharo, a rhoi'r cwpan yn ei law." 12 Dywedodd Joseff wrtho, "Dyma'r dehongliad: y tair cangen, tri diwrnod ydynt; 13 ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben ac yn dy adfer i'th swydd, a byddi dithau'n rhoi cwpan Pharo yn ei law, yn �l yr arfer gynt pan oeddit yn drulliad iddo. 14 Os bydd iti gofio amdanaf pan fydd yn dda arnat, fe wnei gymwynas � mi trwy grybwyll amdanaf wrth Pharo, a'm cael allan o'r tu375? hwn. 15 Oherwydd cefais fy nghipio o wlad yr Hebreaid; ac nid wyf wedi gwneud dim yma chwaith i haeddu fy ngosod mewn cell." 16 Pan welodd y pen-pobydd fod y dehongliad yn un ffafriol, dywedodd wrth Joseff, "Cefais innau hefyd freuddwyd: yr oedd tri chawell o fara gwyn ar fy mhen. 17 Yn y cawell uchaf yr oedd pob math o fwyd wedi ei bobi ar gyfer Pharo, ac adar yn ei fwyta o'r cawell ar fy mhen." 18 Atebodd Joseff, "Dyma'r dehongliad: y tri chawell, tri diwrnod ydynt; 19 ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben � oddi arnat! � ac yn dy grogi ar bren; a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd." 20 Ar y trydydd dydd yr oedd pen-blwydd Pharo, a gwnaeth wledd i'w holl weision, a dod �'r pen-trulliad a'r pen-pobydd i fyny yng ngu373?ydd ei weision. 21 Adferodd y pen-trulliad i'w swydd, a rhoddodd yntau'r cwpan yn llaw Pharo; 22 ond crogodd y pen-pobydd, fel yr oedd Joseff wedi dehongli iddynt. 23 Eto ni chofiodd y pen-trulliad am Joseff, ond anghofio'n llwyr amdano.