Welsh

Hebrews

12

1 Am hynny, gan fod cymaint torf o dystion o'n cwmpas, gadewch i ninnau fwrw ymaith bob rhwystr, a'r pechod sy'n ein maglu mor rhwydd, a rhedeg yr yrfa sydd o'n blaen heb ddiffygio, 2 gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd. Er mwyn y llawenydd oedd o'i flaen, fe oddefodd ef y groes heb ddiffygio, gan ddiystyru gwarth, ac y mae wedi eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. 3 Meddyliwch amdano ef, a oddefodd y fath elyniaeth ato'i hun gan bechaduriaid, rhag i chwi flino na digalonni. 4 Hyd yma, nid ydych wedi gwrthwynebu hyd at waed yn y frwydr yn erbyn pechod, 5 ac yr ydych wedi anghofio'r anogaeth sy'n eich annerch fel plant: "Fy mhlentyn, paid � dirmygu disgyblaeth yr Arglwydd, a phaid � digalonni pan gei dy geryddu ganddo; 6 oherwydd y mae'r Arglwydd yn disgyblu'r sawl y mae'n ei garu, ac yn fflangellu pob un y mae'n ei arddel." 7 Goddefwch y cwbl er mwyn disgyblaeth; y mae Duw yn eich trin fel plant. Canys pa blentyn sydd nad yw ei dad yn ei ddisgyblu? 8 Ac os ydych heb y ddisgyblaeth y mae pob un yn gyfrannog ohoni, yna bastardiaid ydych, ac nid plant cyfreithlon. 9 Mwy na hynny, yr oedd gennym rieni daearol i'n disgyblu, ac yr oeddem yn eu parchu hwy. Oni ddylem, yn fwy o lawer, ymddarostwng i'n Tad ysbrydol, a chael byw? 10 Yr oedd ein rhieni yn disgyblu am gyfnod byr, fel yr oeddent hwy'n gweld yn dda; ond y mae ef yn gwneud hynny er ein lles, er mwyn inni allu cyfranogi o'i sancteiddrwydd ef. 11 Nid yw unrhyw ddisgyblaeth, yn wir, ar y pryd yn ymddangos yn bleserus, ond yn hytrach yn boenus; ond yn nes ymlaen, y mae'n dwyn heddychol gynhaeaf cyfiawnder i'r rhai sydd wedi eu hyfforddi ganddi. 12 Felly, cryfhewch y dwylo llesg a'r gliniau gwan, 13 a gwnewch lwybrau union i'ch traed, rhag i'r aelod cloff gael ei ddatgymalu, ond yn hytrach gael ei wneud yn iach. 14 Ceisiwch heddwch � phawb, a'r bywyd sanctaidd hwnnw nad oes modd i neb weld yr Arglwydd hebddo. 15 Cymerwch ofal na chaiff neb syrthio'n �l oddi wrth ras Duw, rhag i ryw wreiddyn chwerw dyfu i'ch blino, ac i lawer gael eu llygru ganddo. 16 Na foed yn eich plith unrhyw un sy'n anfoesol, neu'n halogedig fel Esau, a werthodd ei freintiau fel etifedd am bryd o fwyd. 17 Oherwydd fe wyddoch iddo ef, pan ddymunodd wedi hynny etifeddu'r fendith, gael ei wrthod, oherwydd ni chafodd gyfle i edifarhau, er iddo grefu am hynny � dagrau. 18 Oherwydd nid ydych chwi wedi dod at ddim y gellir ei gyffwrdd, at d�n sydd yn llosgi, at gaddug a thywyllwch a thymestl, 19 at floedd utgorn, a llef yn rhoi gorchymyn nes i'r rhai a'i clywodd ymbil am i'r llefaru beidio, 20 am na allent oddef y gorchymyn: "Os bydd anifail, hyd yn oed, yn cyffwrdd �'r mynydd, rhaid ei labyddio." 21 A chan mor ofnadwy oedd yr olygfa, dywedodd Moses, "Y mae arnaf arswyd a chryndod." 22 Ond at Fynydd Seion yr ydych chwi wedi dod, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol; ac at fyrddiynau o angylion 23 yn cadw gu373?yl, a chynulleidfa y rhai cyntafanedig sydd �'u henwau'n ysgrifenedig yn y nefoedd; ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y rhai cyfiawn sydd wedi eu perffeithio, ac at Iesu, 24 cyfryngwr y cyfamod newydd, ac at waed y taenellu, sydd yn llefaru'n gryfach na gwaed Abel. 25 Gwyliwch beidio � gwrthod yr hwn sydd yn llefaru, oherwydd os na ddihangodd y rhai a wrthododd yr hwn oedd yn eu rhybuddio ar y ddaear, mwy o lawer ni bydd dianc i ni os byddwn yn troi oddi wrth yr hwn sy'n ein rhybuddio o'r nefoedd. 26 Siglodd ei lais y ddaear y pryd hwnnw, ond yn awr y mae wedi addo, "Unwaith eto yr wyf fi am ysgwyd, nid yn unig y ddaear ond y nefoedd hefyd." 27 Ond y mae'r geiriau, "Unwaith eto", yn dynodi bod y pethau a siglir, fel pethau wedi eu creu, i gael eu symud, er mwyn i'r pethau na siglir aros. 28 Felly, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddi-sigl, gadewch inni fod yn ddiolchgar, a thrwy hynny wasanaethu Duw wrth ei fodd, � pharch ac ofn duwiol. 29 Oherwydd yn wir, t�n yn ysu yw ein Duw ni.