Welsh

Hebrews

13

1 Bydded i frawdgarwch barhau. 2 Peidiwch ag anghofio lletygarwch, oherwydd trwyddo y mae rhai, heb wybod hynny, wedi rhoi llety i angylion. 3 Cofiwch y carcharorion, fel pe byddech yn y carchar gyda hwy; a'r rhai a gamdrinnir, fel pobl sydd � chyrff gennych eich hunain. 4 Bydded priodas mewn parch gan bawb, a'r gwely yn ddihalog; oherwydd bydd Duw yn barnu puteinwyr a godinebwyr. 5 Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, "Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim." 6 Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus: "Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?" 7 Cadwch mewn cof eich arweinwyr, y rhai a lefarodd air Duw wrthych; myfyriwch ar ganlyniad eu buchedd, ac efelychwch eu ffydd. 8 Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth. 9 Peidiwch � chymryd eich camarwain gan athrawiaethau amrywiol a dieithr; oherwydd da yw i'r galon gael ei chadarnhau gan ras, ac nid gan fwydydd na fuont o unrhyw les i'r rhai oedd yn ymwneud � hwy. 10 Y mae gennym ni allor nad oes gan wasanaethwyr y tabernacl ddim hawl i fwyta ohoni. 11 Y mae cyrff yr anifeiliaid hynny, y dygir eu gwaed dros bechod i'r cysegr gan yr archoffeiriad, yn cael eu llosgi y tu allan i'r gwersyll. 12 Felly Iesu hefyd, dioddef y tu allan i'r porth a wnaeth ef, er mwyn sancteiddio'r bobl trwy ei waed ei hun. 13 Am hynny, gadewch inni fynd ato ef y tu allan i'r gwersyll, gan oddef y gwaradwydd a oddefodd ef. 14 Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma; ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod. 15 Gadewch inni, felly, drwyddo ef offrymu aberth moliant yn wastadol i Dduw; hynny yw, ffrwyth gwefusau sy'n cyffesu ei enw. 16 Peidiwch ag anghofio gwneud daioni a rhannu ag eraill; oherwydd ag aberthau fel hyn y rhyngir bodd Duw. 17 Ufuddhewch i'ch arweinwyr, ac ildiwch iddynt, oherwydd y maent hwy'n gwylio'n ddiorffwys dros eich eneidiau, fel rhai sydd i roi cyfrif. Gadewch iddynt allu gwneud hynny'n llawen, ac nid yn ofidus, oherwydd di-fudd i chwi fyddai hynny. 18 Gwedd�wch drosom ni; oherwydd yr ydym yn sicr fod gennym gydwybod l�n, am ein bod yn dymuno ymddwyn yn iawn ym mhob peth. 19 Yr wyf yn erfyn yn daerach arnoch i wneud hyn, er mwyn imi gael fy adfer i chwi yn gynt. 20 Bydded i Dduw tangnefedd, yr hwn a ddug yn �l oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol, 21 eich cymhwyso � phob daioni, er mwyn ichwi wneud ei ewyllys ef; a bydded iddo lunio ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen. 22 Yr wyf yn deisyf arnoch chwi, gyfeillion, oddef y gair hwn o anogaeth, oblegid yn fyr yr ysgrifennais atoch. 23 Y newydd yw fod ein brawd Timotheus wedi ei ryddhau, ac os daw mewn pryd, caf eich gweld gydag ef. 24 Cyfarchwch eich holl arweinwyr, a'r holl saint. Y mae'r cyfeillion o'r Eidal yn eich cyfarch. 25 Gras fyddo gyda chwi oll!