1 Prif bwynt yr hyn rwy'n ei ddweud yw mai dyma'r math o archoffeiriad sydd gennym, un sydd wedi eistedd ar ddeheulaw gorsedd y Mawrhydi yn y nefoedd, 2 yn weinidog y cysegr, sef y gwir dabernacl a osododd yr Arglwydd, nid pobl feidrol. 3 Oherwydd y mae pob archoffeiriad yn cael ei benodi i offrymu rhoddion ac aberthau, ac felly, rhaid bod gan hwn hefyd rywbeth i'w offrymu. 4 Yn awr, pe byddai ar y ddaear, ni byddai'n offeiriad o gwbl, gan fod yma eisoes rai sy'n offrymu rhoddion yn �l y Gyfraith. 5 Y mae'r rhain yn gweini mewn cysegr sy'n llun a chysgod o'r un nefol, yn �l y gorchymyn a gafodd Moses pan oedd ar fin codi'r tabernacl. "Gofala," meddai Duw, "y byddi'n gwneud pob peth yn �l y patrwm a ddangoswyd iti ar y mynydd." 6 Ond, fel y mae, cafodd Iesu weinidogaeth ragorach, gan ei fod yn gyfryngwr cyfamod cymaint gwell � cyfamod, yn wir, sydd wedi ei sefydlu ar addewidion gwell. 7 Oherwydd pe bai'r cyfamod cyntaf hwnnw yn ddi-fai, ni byddai lle i ail gyfamod. 8 Oblegid y mae Duw'n eu beio pan yw'n dweud: "Y mae'r dyddiau'n dod, medd yr Arglwydd, y gwnaf gyfamod newydd � thu375? Israel ac � thu375? Jwda; 9 ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum �'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft, oherwydd nid arosasant hwy yn fy nghyfamod i. A minnau, fe'u diystyrais hwy, medd yr Arglwydd. 10 Dyma'r cyfamod a wnaf � thu375? Israel ar �l y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd: rhof fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac ysgrifennaf hwy ar eu calon. A byddaf yn Dduw iddynt, a hwythau'n bobl i mi. 11 Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gyd-ddinesydd a phob un ei gilydd, gan ddweud, 'Adnebydd yr Arglwydd.' Oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt. 12 Oherwydd byddaf yn drugarog wrth eu camweddau, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy." 13 Wrth ddweud "cyfamod newydd", y mae wedi dyfarnu'r cyntaf yn hen; ac y mae'r hyn sy'n mynd yn hen ac oedrannus ar fin diflannu.