1 Yn awr, yr oedd gan y cyfamod cyntaf hefyd ordinhadau addoliad, a chysegr, ond mai cysegr daearol oedd. 2 Oblegid codwyd pabell, sef y gyntaf, ac ynddi hi yr oedd y canhwyllbren a'r bwrdd a'r bara gosod; gelwir hon yn Gysegr. 3 A'r tu �l i'r ail len yr oedd y babell a elwir yn Gysegr Sancteiddiaf, 4 lle'r oedd allor aur yr arogldarth, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro drosti i gyd; yn honno yr oedd llestr aur yn dal y manna, a gwialen Aaron, a flagurodd unwaith, a llechau'r cyfamod; 5 ac uwch ei phen yr oedd cerwbiaid y gogoniant, yn cysgodi'r drugareddfa. Am y rhain ni ellir manylu yn awr. 6 Yn �l y trefniadau hyn, y mae'r offeiriaid yn mynd i mewn yn barhaus i'r babell gyntaf i gyflawni'r gwasanaethau; 7 ond yr archoffeiriad yn unig sy'n mynd i'r ail, unwaith yn y flwyddyn, ac nid yw yntau'n mynd heb waed i'w offrymu drosto'i hun a thros bechodau anfwriadol y bobl. 8 Yn hyn, y mae'r Ysbryd Gl�n yn dangos nad oedd y ffordd i'r cysegr wedi ei hamlygu cyhyd ag yr oedd y tabernacl cyntaf yn sefyll. 9 Y mae hyn oll yn arwyddlun ar gyfer yr amser presennol. Yn �l y drefn hon offrymir rhoddion ac aberthau na allant berffeithio'r addolwr yn ei gydwybod, 10 oherwydd y maent yn ymwneud yn unig � bwydydd a diodydd ac amrywiol olchiadau, ordinhadau allanol sydd wedi eu gosod hyd amser y drefn newydd. 11 Ond yn awr daeth Crist, archoffeiriad y pethau da sydd wedi dod. Trwy dabernacl rhagorach a pherffeithiach, nid o waith llaw (hynny yw, nid o'r greadigaeth hon), 12 ac nid � gwaed geifr a lloi, ond �'i waed ei hun, yr aeth ef i mewn un waith am byth i'r cysegr, a sicrhau prynedigaeth dragwyddol. 13 Oblegid os yw gwaed geifr a theirw, a lludw anner, o'i daenu ar yr halogedig, yn sancteiddio hyd at buredigaeth allanol, 14 pa faint mwy y bydd gwaed Crist, yr hwn a'i hoffrymodd ei hun trwy'r Ysbryd tragwyddol yn ddi-nam i Dduw, yn puro ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw. 15 Am hynny, y mae ef yn gyfryngwr cyfamod newydd, er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw gael derbyn yr etifeddiaeth dragwyddol a addawyd, gan fod marwolaeth wedi digwydd er sicrhau rhyddhad oddi wrth y troseddau a gyflawnwyd dan y cyfamod cyntaf. 16 Oherwydd lle y mae ewyllys, y mae'n rhaid profi marwolaeth y sawl a'i gwnaeth; 17 ar farwolaeth dyn y bydd ewyllys yn dod yn effeithiol; nid yw byth mewn grym tra bydd y sawl a'i gwnaeth yn fyw. 18 Felly, ni sefydlwyd y cyfamod cyntaf, hyd yn oed, heb waed. 19 Oblegid ar �l i Moses gyhoeddi i'r holl bobl bob gorchymyn yn �l y Gyfraith, cymerodd waed lloi a geifr, gyda du373?r a gwl�n ysgarlad ac isop, a'i daenellu ar y llyfr ei hun ac ar yr holl bobl hefyd, 20 gan ddweud, "Hwn yw gwaed y cyfamod a ordeiniodd Duw ar eich cyfer." 21 Ac yn yr un modd taenellodd waed ar y tabernacl hefyd, ac ar holl lestri'r gwasanaeth. 22 Yn wir, � gwaed y mae pob peth bron, yn �l y Gyfraith, yn cael ei buro, a heb dywallt gwaed nid oes maddeuant. 23 Gan hynny, yr oedd yn rhaid i gysgodau o'r pethau nefol gael eu puro �'r pethau hyn, ond y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn. 24 Oherwydd nid i gysegr o waith llaw, rhyw lun o'r cysegr gwirioneddol, yr aeth Crist i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw drosom ni. 25 Ac nid i'w offrymu ei hun yn fynych y mae'n mynd, fel y bydd yr archoffeiriad yn mynd i mewn i'r cysegr bob blwyddyn � gwaed arall na'r eiddo ei hun; 26 petai felly, buasai wedi gorfod dioddef yn fynych er seiliad y byd. Ond yn awr, un waith am byth, ar ddiwedd yr oesoedd, y mae ef wedi ymddangos er mwyn dileu pechod drwy ei aberthu ei hun. 27 Ac yn gymaint ag y gosodwyd i ddynion eu bod i farw un waith, a bod barn yn dilyn hynny, 28 felly hefyd bydd Crist, ar �l cael ei offrymu un waith i ddwyn pechodau llawer, yn ymddangos yr ail waith, nid i ddelio � phechod, ond er iachawdwriaeth i'r rhai sydd yn disgwyl amdano.