1 "Dewch, dychwelwn drachefn at yr ARGLWYDD; fe'n drylliodd, ac fe'n hiach�; fe'n trawodd, ac fe'n meddyginiaetha. 2 Fe'n hadfywia ar �l deuddydd, a'n codi ar y trydydd dydd, inni fyw yn ei u373?ydd. 3 Gadewch inni adnabod, ymdrechu i adnabod, yr ARGLWYDD; y mae ei ddyfodiad mor sicr �'r wawr; daw fel glaw atom, fel glaw gwanwyn sy'n dyfrhau'r ddaear." 4 "Beth a wnaf i ti, Effraim? Beth a wnaf i ti, Jwda? Y mae dy ffyddlondeb fel tarth y bore, fel gwlith sy'n codi'n gynnar. 5 Am hynny, fe'u drylliais trwy'r proffwydi, fe'u lleddais � geiriau fy ngenau, a daw fy marn allan fel goleuni. 6 Oherwydd ffyddlondeb a geisiaf, ac nid aberth, gwybodaeth o Dduw yn hytrach na phoethoffrymau. 7 Yn Adma torasant gyfamod, yno buont dwyllodrus tuag ataf. 8 Dinas rhai ofer yw Gilead, wedi ei thrybaeddu � gwaed. 9 Fel y bydd lladron yn disgwyl am rywun, felly'r ymunodd yr offeiriaid yn fintai; byddant yn lladd ar y ffordd i Sichem, yn wir, yn gwneud anfadwaith. 10 Yng nghysegr Israel gwelais beth erchyll; yno y mae puteindra Effraim, ac yr halogodd Israel ei hun. 11 I tithau hefyd, Jwda, paratowyd cynhaeaf.