Welsh

Hosea

7

1 " Pan ddymunaf adfer llwyddiant fy mhobl ac iach�u Israel, datguddir camwedd Effraim a drygioni Samaria, oherwydd y maent yn ymddwyn yn ffals; y mae lleidr yn torri i mewn, ysbeiliwr yn anrheithio ar y stryd. 2 Nid ydynt yn ystyried fy mod yn cofio'u holl ddrygioni; y mae eu gweithredoedd yn gylch o'u cwmpas, y maent yn awr ger fy mron. 3 Y maent yn llawenychu'r brenin �'u drygioni, a'r tywysogion �'u celwyddau. 4 Y mae pawb ohonynt yn odinebwyr fel ffwrn a daniwyd gan bobydd, nad oes angen ei chyffwrdd o dyliniad y toes nes iddo godi. 5 Ar ddydd gu373?yl ein brenin clafychodd y tywysogion gan effaith gwin; estynnodd yntau ei law gyda'r gwatwarwyr. 6 Fel ffwrn y mae eu calon yn llosgi gan ddichell; ar hyd y nos bydd eu dicter yn mud losgi; yn y bore bydd yn cynnau fel fflamau t�n. 7 Y mae pawb ohonynt yn boeth fel ffwrn, ac ysant eu barnwyr; syrthiodd eu holl frenhinoedd, ac ni eilw yr un ohonynt arnaf. 8 "Y mae Effraim wedi ymgymysgu �'r cenhedloedd; y mae Effraim fel teisen heb ei throi. 9 Y mae estroniaid yn ysu ei nerth, ac yntau heb wybod; lledodd penwynni drosto, ac yntau heb wybod. 10 Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn; eto ni ddychwelant at yr ARGLWYDD eu Duw, ac ni cheisiant ef, er hyn i gyd. 11 "Y mae Effraim fel colomen, yn ff�l a diddeall; galwant ar yr Aifft, �nt i Asyria. 12 Fel yr �nt, lledaf fy rhwyd drostynt, a'u dwyn i lawr fel adar yr awyr; fe'u cosbaf fel rhybudd cyhoeddus. 13 Gwae hwy am grwydro oddi wrthyf! Distryw arnynt am wrthryfela yn f'erbyn! Gwaredwn hwy, ond dywedant gelwydd amdanaf. 14 "Ni lefant o ddifrif arnaf, ond dolefant ar eu gwelyau; am u375?d a gwin fe'u hanafant eu hunain, gwrthryfelant yn f'erbyn. 15 Er i mi eu dysgu a nerthu eu breichiau, eto dyfeisiant ddrwg yn f'erbyn. 16 Tr�nt yn �l heb lwyddo; y maent fel bwa twyllodrus; syrth eu penaethiaid �'r cleddyf oherwydd haerllugrwydd eu tafodau. Dyma'u dirmyg yng ngwlad yr Aifft.