Welsh

Isaiah

1

1 Dyma'r weledigaeth a ddaeth i Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem yn ystod teyrnasiad Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda. 2 Clyw, nefoedd! Gwrando, ddaear! Oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD: "Megais blant a'u meithrin, ond codasant mewn gwrthryfel yn f'erbyn. 3 Y mae'r ych yn adnabod y sawl a'i piau, a'r asyn breseb ei berchennog; ond nid yw Israel yn adnabod, ac nid yw fy mhobl yn deall." 4 O genhedlaeth bechadurus, pobl dan faich o ddrygioni, epil drwgweithredwyr, plant anrheithwyr! Y maent wedi gadael yr ARGLWYDD, wedi dirmygu Sanct Israel, a throi cefn. 5 I ba ddiben y trewir chwi mwyach, gan eich bod yn parhau i wrthgilio? Y mae eich pen yn ddoluriau i gyd, a'ch holl galon yn ysig; 6 o'r corun i'r sawdl nid oes un man yn iach, dim ond archoll a chlais a dolur crawnllyd heb eu gwasgu na'u rhwymo na'u hesmwytho ag olew. 7 Y mae eich gwlad yn anrhaith, eich dinasoedd yn ulw, a dieithriaid yn ysu eich tir yn eich gu373?ydd; y mae'n ddiffaith fel Sodom ar �l ei dinistrio. 8 Gadawyd Seion fel caban mewn gwinllan, fel cwt mewn gardd cucumerau, fel dinas dan warchae. 9 Oni bai i ARGLWYDD y Lluoedd adael i ni weddill bychan, byddem fel Sodom, a'r un ffunud � Gomorra. 10 Clywch air yr ARGLWYDD, chwi reolwyr Sodom, gwrandewch ar gyfraith ein Duw, chwi bobl Gomorra. 11 "Beth i mi yw eich aml aberthau?" medd yr ARGLWYDD. "Cefais syrffed ar boethoffrwm o hyrddod a braster anifeiliaid; ni chaf bleser o waed bustych nac o u373?yn na bychod. 12 Pan ddewch i ymddangos o'm blaen, pwy sy'n gofyn hyn gennych, sef mathru fy nghynteddau? 13 Peidiwch � chyflwyno rhagor o offrymau ofer; y mae arogldarth yn ffiaidd i mi. Gu373?yl y newydd-loer, Sabothau a galw cymanfa � ni allaf oddef drygioni a chynulliad sanctaidd. 14 Y mae'n gas gan f'enaid eich newydd�loerau a'ch gwyliau sefydlog; aethant yn faich arnaf, a blinais eu dwyn. 15 Pan ledwch eich dwylo mewn gweddi, trof fy llygaid ymaith; er i chwi amlhau eich ymbil, ni fynnaf wrando arnoch. Y mae eich dwylo'n llawn gwaed; 16 ymolchwch, ymlanhewch. Ewch �'ch gweithredoedd drwg o'm golwg; 17 peidiwch � gwneud drwg, dysgwch wneud daioni. Ceisiwch farn, achubwch gam y gorthrymedig, amddiffynnwch yr amddifad, a chymerwch blaid y weddw. 18 "Yn awr, ynteu, ymresymwn �'n gilydd," medd yr ARGLWYDD. "Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned �'r eira; pe baent cyn goched � phorffor, fe �nt fel gwl�n. 19 Os bodlonwch i ufuddhau, cewch fwyta o ddaioni'r tir; 20 ond os gwrthodwch, a gwrthryfela, fe'ch ysir � chleddyf." Genau'r ARGLWYDD a'i llefarodd. 21 O fel yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! Bu'n llawn o farn, a thrigai cyfiawnder ynddi, ond bellach llofruddion. 22 Aeth dy arian yn sorod, a'th win yn gymysg � du373?r. 23 Y mae dy arweinwyr yn wrthryfelwyr ac yn bartneriaid lladron; y maent i gyd yn caru cil-dwrn ac yn chwilio am wobrau; nid ydynt yn amddiffyn yr amddifad, ac ni roddant sylw i gu373?yn y weddw. 24 Am hynny, medd yr ARGLWYDD, ARGLWYDD y Lluoedd, Cadernid Israel, "Aha! Caf fwrw fy llid ar y rhai sy'n fy mlino, a dialaf ar fy ngelynion. 25 Trof fy llaw yn dy erbyn, puraf dy sorod � thrwyth, a symudaf dy holl amhuredd. 26 Trof dy farnwyr i fod fel cynt, a'th gynghorwyr fel yn y dechrau. Ac wedi hynny fe'th elwir yn ddinas gyfiawn, yn dref ffyddlon." 27 Gwaredir Seion trwy farn, a'i rhai edifeiriol trwy gyfiawnder. 28 Ond daw dinistr i'r gwrthryfelwyr a'r pechaduriaid ynghyd, a diddymir y rhai a gefna ar Dduw. 29 Bydd arnoch gywilydd o'r deri a oedd yn hoff gennych, a gwridwch dros eich gerddi dethol; 30 byddwch fel coeden dderw a'i dail wedi gwywo, ac fel gardd heb ddu373?r ynddi. 31 Bydd y cadarn fel cynnud, a'i orchest fel gwreichionen; fe losgant ill dau ynghyd, ac ni all neb eu diffodd.