Welsh

Song of Solomon

8

1 O na fyddit yn frawd i mi, wedi dy fagu ar fronnau fy mam! Yna pan welwn di yn y stryd byddwn yn dy gusanu, ac ni fyddai neb yn fy nirmygu. 2 Byddwn yn dy arwain a'th ddwyn i du375? fy mam a'm hyfforddodd, a rhoi gwin llysiau yn ddiod iti, sudd fy mhomgranadau. 3 Yna byddai ei fraich chwith o dan fy mhen, a'i fraich dde yn fy nghofleidio. 4 Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch. Peidiwch � deffro na tharfu fy nghariad nes y bydd yn barod. 5 Pwy yw hon sy'n dod i fyny o'r anialwch, yn pwyso ar ei chariad? Deffroais di dan y pren afalau, lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi, lle bu'r un a esgorodd arnat mewn gwewyr. 6 Gosod fi fel s�l ar dy galon, fel s�l ar dy fraich; oherwydd y mae cariad mor gryf � marwolaeth, a nwyd mor greulon �'r bedd; y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd, fel fflam angerddol. 7 Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei foddi. Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei du375? am gariad, byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr. 8 Y mae gennym chwaer fach sydd heb fagu bronnau. Beth a wnawn i'n chwaer pan ofynnir amdani? 9 Os mur yw hi, byddwn yn adeiladu caer arian arno; os drws, byddwn yn ei gau ag astell gedrwydd. 10 Mur wyf fi, a'm bronnau fel tyrau; yn ei olwg ef yr wyf fel un yn rhoi boddhad. 11 Yr oedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon; pan osododd ei winllan yng ngofal gwylwyr, yr oedd pob un i roi mil o ddarnau arian am ei ffrwyth. 12 Ond y mae fy ngwinllan i yn eiddo i mi fy hun; fe gei di, Solomon, y mil o ddarnau arian, a chaiff y rhai sy'n gwylio'i ffrwyth ddau gant. 13 Ti sy'n eistedd yn yr ardd, a chyfeillion yn gwrando ar dy lais, gad i mi dy glywed. 14 Brysia allan, fy nghariad, a bydd yn debyg i afrewig, neu'r hydd ifanc ar fynyddoedd y perlysiau.