1 Yr oracl am Tyrus: Udwch, longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd y porthladd; wrth groesi o dir Chittim fe welir hynny. 2 Wylwch, drigolion y glannau, masnachwyr Sidon, sy'n tramwyo'r m�r, 3 a'th weision ar y dyfroedd mawrion; cnwd Sihor, cynhaeaf y Neil, oedd dy gyllid, a masnachwr y cenhedloedd oeddit ti. 4 Cywilydd arnat, Sidon, canys llefarodd y m�r, caer y m�r, a dweud, "Nid wyf mewn gwewyr nac yn esgor, nac yn magu llanciau nac yn meithrin morynion." 5 Pan ddaw'r newydd i'r Aifft, gwingant wrth glywed am Tyrus. 6 Ewch drosodd i Tarsis; udwch, drigolion y glannau. 7 Ai hon yw eich dinas brysur, sydd �'i hanes mor hen, a'i theithio wedi mynd � hi i ymsefydlu mor bell? 8 Pwy a gynlluniodd hyn yn erbyn Tyrus goronog, oedd �'i masnachwyr yn dywysogion a'i marchnatwyr yn fawrion y ddaear? 9 ARGLWYDD y Lluoedd a'i cynlluniodd, i ddifwyno pob gogoniant balch, i ddiraddio holl fawrion y ddaear. 10 Dos trwy dy dir, fel y gwna'r Neil, ferch Tarsis; nid oes atalfa mwyach. 11 Estynnodd yr ARGLWYDD ei law dros y m�r, ysgydwodd deyrnasoedd; rhoes orchymyn ynghylch Canaan, i ddinistrio ei cheyrydd. 12 A dywedodd, "Ni chei ymffrostio ddim mwy, ti forwyn a orthrymwyd, ferch Sidon; cod, dos drosodd i Chittim, ond ni chei orffwys yno chwaith." 13 Edrych ar wlad y Caldeaid. Y rhain � nid yr Asyriaid � yw'r bobl a bennodd Tyrus i'r anifeiliaid gwylltion. Hwy a gododd warchae, a dryllio'i phalasau, a'i thynnu i lawr yn adfeilion. 14 Udwch, chwi longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd eich amddiffynfa. 15 Yn yr amser hwnnw fe anghofir Tyrus am ddeng mlynedd a thrigain, sef hyd einioes un brenin; ac ymhen deng mlynedd a thrigain bydd cyflwr Tyrus fel y butain yn y g�n: 16 "Cymer dy delyn, rhodianna trwy'r ddinas, di butain a anghofiwyd; tyn yn dyner ar y tannau, c�n dy ganeuon yn aml, fel y cofir di drachefn." 17 Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain, bydd yr ARGLWYDD yn ymweld eto � Tyrus; fe � hithau'n �l at ei masnach a'i llogi ei hun i bob teyrnas ar y ddaear. 18 Ond bydd ei helw a'i henillion wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD; ni chronnir hwy na'u cuddio, ond bydd ei masnach yn darparu llawnder o fwyd a gwisgoedd hardd i'r rhai sy'n byw yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD.