1 Wele, y mae'r ARGLWYDD yn gwac�u'r ddaear, yn ei difrodi, yn ei throi �'i hwyneb i waered, ac yn gyrru ei thrigolion ar wasgar. 2 Bydd yr un ffunud i bobl ac i offeiriad, i was ac i feistr, i lawforwyn ac i feistres, i brynwr ac i werthwr, i echwynnwr ac i fenthyciwr, i'r un sy'n derbyn llog ac i'r un sy'n ei dalu. 3 Gwneir y ddaear yn gwbl wag, a'i hysbeilio'n llwyr. Oherwydd yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn. 4 Gwywodd y ddaear a chrino, dihoenodd y byd ac edwino, dihoenodd uchelfeydd y ddaear. 5 Halogwyd y ddaear gan ei phreswylwyr, am iddynt dorri'r cyfreithiau, newid y deddfau a diddymu'r cyfamod tragwyddol. 6 Am hynny fe ysir y wlad gan felltith, a chosbir ei thrigolion; am hynny hefyd fe �'r trigolion yn llai a llai, ac ychydig fydd yn weddill. 7 Fe �'r gwin newydd yn wan, dihoena'r winwydden, a thry'r gorfoleddwyr i riddfan. 8 Bydd su373?n llawen y tympanau yn peidio, a thrwst y gyfeddach yn distewi, a'r delyn hyfryd yn dawel. 9 Ni fydd yfed gwin yn su373?n canu; bydd y ddiod yn chwerw i'r yfwr. 10 Bydd dinas anhrefn wedi ei dryllio, a phob tu375? ar glo rhag i neb fynd iddo. 11 Er galw am win yn yr heolydd, bydd diwedd ar bob cyfeddach, a diflanna llawenydd o'r wlad. 12 Anghyfanhedd�dra yn unig a adewir yn y ddinas, a bydd ei phyrth wedi eu dryllio'n gandryll. 13 Felly y bydd dros y byd i gyd ymhlith y bobloedd, fel ar adeg ysgwyd yr olewydd a lloffa'r gwinwydd ar �l y cynhaeaf. 14 Byddant yn codi llef a llawenhau, datganant glod yr ARGLWYDD o'r gorllewin. 15 Am hynny taler parch i'r ARGLWYDD yn y dwyrain, i enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ynysoedd y gorllewin. 16 O eithafoedd y ddaear fe glywn orfoledd: "Gogoniant i'r Un Cyfiawn." Ond fe ddywedaf fi, "Nychdod! Nychdod! Gwae fi! y twyllwyr a dwyllodd, twyllwyr a dwyllodd �'u twyll." 17 Dychryn, pwll, magl sydd ar dy gyfer, breswylydd y tir; 18 y sawl a ffy o drwst y dychryn a syrth i'r pwll, a'r sawl a gyfyd o ganol y pwll a ddelir yn y fagl. Oherwydd agorir ffenestri'r uchelder, ac fe gryna seiliau'r ddaear; 19 dryllir y ddaear yn deilchion, ei rhwygo drwyddi a'i hysgwyd yn ffyrnig; 20 bydd y ddaear yn gwegian yn �l a blaen fel meddwyn, yn siglo fel caban gwyliwr; bydd pwysau ei chamwedd mor drwm arni, fel y bydd yn syrthio heb godi byth mwy. 21 Yn y dydd hwnnw fe gosba'r ARGLWYDD lu'r nef yn y nef, a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear. 22 Fe'u cesglir ynghyd, yn glos fel carcharorion mewn cell; caeir arnynt yng ngharchar, a'u cosbi ymhen amser hir. 23 Gwaradwyddir y lloer, a chywilyddia'r haul, oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoedd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem, a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.