Welsh

Isaiah

27

1 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD �'i gleddyf creulon, mawr a nerthol yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y m�r. 2 Yn y dydd hwnnw y canwch g�n y winllan ddymunol: 3 "Myfi, yr ARGLWYDD, fydd yn ei chadw, ei dyfrhau bob munud, a'i gwylio nos a dydd, rhag i neb ei cham-drin. 4 Nid oes gennyf lid yn ei herbyn; os drain a mieri a rydd imi, rhyfelaf yn ei herbyn, a'u llosgi i gyd; 5 ond os yw am afael ynof am sicrwydd, gwnaed heddwch � mi, gwnaed heddwch � mi." 6 Fe ddaw'r adeg i Jacob fwrw gwraidd, ac i Israel flodeuo a blaguro, a llenwi'r ddaear i gyd � chnwd. 7 A drawodd Duw ef fel y trawodd ef yr un a'i trawodd? A laddwyd ef fel y lladdodd ef yr un a'i lladdodd? 8 Trwy symud ymaith a bwrw allan, yr wyt yn ei barnu, ac yn ei hymlid � gwynt creulon pan gyfyd o'r dwyrain. 9 Am hynny, fel hyn y mae glanhau drygioni Jacob, a hyn fydd yn symud ymaith ei gamwedd � gwneud holl feini'r allor fel cerrig calch wedi eu malu, heb bost nac allor yn sefyll. 10 Oherwydd y mae'r ddinas gadarn yn unig, yn fangre wedi ei gadael a'i gwrthod, fel diffeithdir, lle y mae'r llo yn pori a gorwedd, ac yn cnoi pob blaguryn sy'n tyfu. 11 Pan wywa'i changau, fe'u torrir, a daw'r gwragedd a chynnau t�n � hwy. Am mai pobl heb ddeall ydynt, ni fydd eu Gwneuthurwr yn dangos dim trugaredd, na'u Creawdwr yn gwneud dim ffafr � hwy. 12 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn dyrnu u375?d o'r afon Ewffrates hyd nant yr Aifft, ac fe gewch chwi, blant Israel, eich lloffa bob yn un ac un. 13 Yn y dydd hwnnw fe genir ag utgorn mawr; ac fe ddaw'r rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd ar chw�l yn yr Aifft, ac addoli'r ARGLWYDD yn y mynydd sanctaidd, yn Jerwsalem.