Welsh

Isaiah

28

1 Gwae goronau balch meddwon Effraim, blodau gwyw eu haddurn gogoneddus ar ben y beilchion bras a orchfygwyd gan win. 2 Wele, y mae gan yr ARGLWYDD un nerthol a chryf; fel storm o genllysg, fel tymestl ddinistriol, fel cenllif o ddyfroedd yn gorlifo'n ddilyw, fe ymesyd yn ddidostur ar y ddaear. 3 Bydd coronau balch meddwon Effraim wedi eu mathru dan draed; 4 a bydd blodau gwyw eu haddurn gogoneddus ar ben y beilchion bras fel ffigysen gynnar cyn yr haf; pan w�l rhywun hi fe'i llynca gyda'i bod yn ei law. 5 Yn y dydd hwnnw bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn goron odidog, yn dorch brydferth i weddill ei bobl, 6 yn ysbryd tegwch i'r sawl sy'n eistedd mewn barn, ac yn gadernid i'r sawl sy'n troi'r rhyfel draw o'r porth. 7 Ond y mae eraill sy'n simsan gan win, ac yn gwegian yn eu diod; y mae'r offeiriad a'r proffwyd yn simsan yn eu diod, ac wedi drysu gan win; y maent yn gwegian mewn diod, yn simsan yn eu gweledigaeth, ac yn baglu yn eu dyfarniad. 8 Y mae pob bwrdd yn un chwydfa; nid oes unman heb fudreddi. 9 "Pwy y mae'n ceisio'i ddysgu, ac i bwy y mae am roi gwers? Ai rhai newydd eu diddyfnu a'u tynnu oddi wrth y fron? 10 Y mae fel dysgu sillafu: 'o s' am 'os', 'o s' am 'os'; 'a c' am 'ac', 'a c' am 'ac' � gair bach yma, gair bach draw." 11 Yn wir, trwy iaith estron a thafod dieithr y lleferir wrth y bobl hyn, 12 y rhai y dywedodd wrthynt, "Dyma'r orffwysfa, rhowch orffwys i'r lluddedig, dyma'r esmwythfa" � ond ni fynnent wrando. 13 Ond dyma air yr ARGLWYDD iddynt: "Mater o ddysgu sillafu yw hi: 'o s' am 'os', 'o s' am 'os'; 'a c' am 'ac', 'a c' am 'ac' � gair bach yma, gair bach draw." Felly, wrth fynd ymlaen, fe syrthiant yn �l, a'u clwyfo, a'u baglu a'u dal. 14 Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi wu375?r gwatwarus, penaethiaid y bobl hyn sydd yn Jerwsalem. 15 Yr ydych chwi'n dweud, "Gwnaethom gyfamod ag angau a chynghrair � Sheol: pan fydd y ffrewyll lethol yn mynd heibio, ni fydd yn cyffwrdd � ni, am inni wneud celwydd yn noddfa inni a cheisio lloches mewn twyll." 16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw: "Wele fi'n gosod carreg sylfaen yn Seion, maen a brofwyd, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia'r sawl sy'n credu. 17 Gwnaf farn yn llinyn mesur, a chyfiawnder yn blymen; bydd y cenllysg yn ysgubo ymaith eich noddfa celwydd, a'r dyfroedd yn boddi eich lloches; 18 diddymir eich cyfamod ag angau, ac ni saif eich cynghrair � Sheol. Pan �'r ffrewyll lethol heibio cewch eich mathru dani. 19 Bob tro y daw heibio, fe'ch tery; y naill fore ar �l y llall fe ddaw, liw dydd a liw nos." Ni fydd namyn dychryn i'r sawl a ddeall y wers. 20 Y mae'r gwely'n rhy fyr i rywun ymestyn ynddo, a'r cwrlid yn rhy gul i'w blygu amdano. 21 Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel ar Fynydd Perasim, ac yn bwrw ei ddicter fel yn nyffryn Gibeon, i orffen ei waith, ei ddieithr waith, ac i gyflawni ei orchwyl, ei estron orchwyl. 22 Yn awr, peidiwch �'ch gwatwar, rhag i'r rhwymau dynhau amdanoch, canys clywais gyhoeddi diwedd a therfyn ar yr holl wlad gan Arglwydd DDUW y Lluoedd. 23 Clywch, gwrandewch arnaf, rhowch sylw, a gwrandewch ar fy ngeiriau. 24 A fydd yr arddwr yn aredig trwy'r dydd ar gyfer hau, trwy'r dydd yn torri'r tir ac yn ei lyfnu? 25 Oni fydd, ar �l lefelu'r wyneb, yn taenu ffenigl ac yn gwasgaru cwmin, yn hau gwenith a haidd, a cheirch ar y dalar? 26 Y mae ei Dduw yn ei hyfforddi ac yn ei ddysgu'n iawn. 27 Nid � llusgen y dyrnir ffenigl, ac ni throir olwyn men ar gwmin; ond dyrnir ffenigl � ffon, a'r cwmin � gwialen. 28 Fe felir u375?d i gael bara, ac nid yw'r dyrnwr yn ei falu'n ddi�ddiwedd; er gyrru olwyn men drosto, ni chaiff y meirch ei fathru. 29 Daw hyn hefyd oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd; y mae ei gyngor yn rhyfeddol a'i allu'n fawr.