1 Fy nghyfeillion, fel rhai sydd � ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant, peidiwch � rhoi lle i ffafriaeth. 2 Bwriwch fod dyn � modrwy aur a dillad crand yn dod i'r cwrdd, a bod dyn tlawd mewn dillad carpiog yn dod hefyd. 3 A bwriwch eich bod chwi'n talu sylw i'r un sy'n gwisgo dillad crand, ac yn dweud wrtho ef, "Eisteddwch yma, os gwelwch yn dda"; ond eich bod yn dweud wrth y dyn tlawd, "Saf di fan draw, neu eistedd wrth fy nhroedfainc." 4 Onid ydych yn anghyson eich agwedd ac yn llygredig eich barn? 5 Clywch, fy nghyfeillion annwyl. Oni ddewisodd Duw y rhai sy'n dlawd yng ngolwg y byd i fod yn gyfoethog mewn ffydd ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i'r rhai sydd yn ei garu? 6 Eto rhoesoch chwi anfri ar y dyn tlawd. Onid y cyfoethogion sydd yn eich gormesu chwi, ac onid hwy sydd yn eich llusgo i'r llysoedd? 7 Onid hwy sydd yn cablu'r enw gl�n a alwyd arnoch? 8 Wrth gwrs, os cyflawni gofynion y Gyfraith frenhinol yr ydych, yn unol �'r Ysgrythur, "C�r dy gymydog fel ti dy hun", yr ydych yn gwneud yn ardderchog. 9 Ond os ydych yn dangos ffafriaeth, cyflawni pechod yr ydych, ac yng ngoleuni'r Gyfraith yr ydych yn droseddwyr. 10 Y mae pwy bynnag a gadwodd holl ofynion y Gyfraith, ond a lithrodd ar un peth, yn euog o dorri'r cwbl. 11 Oherwydd y mae'r un a ddywedodd, "Na odineba", wedi dweud hefyd, "Na ladd". Os nad wyt yn godinebu, ond eto yn lladd, yr wyt yn droseddwr yn erbyn y Gyfraith. 12 Llefarwch a gweithredwch fel rhai sydd i'w barnu dan gyfraith rhyddid. 13 Didrugaredd fydd y farn honno i'r sawl na ddangosodd drugaredd. Trech trugaredd na barn. 14 Fy nghyfeillion, pa les yw i rywun ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all y ffydd honno ei achub? 15 Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol, 16 ac un ohonoch yn dweud wrthynt, "Ewch, a phob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd", ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau'r corff, pa les ydyw? 17 Felly hefyd y mae ffydd ar ei phen ei hun, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw. 18 Ond efallai y bydd rhywun yn dweud, "Ffydd sydd gennyt ti, gweithredoedd sydd gennyf fi." o'r gorau, dangos i mi dy ffydd di heb weithredoedd, ac fe ddangosaf finnau i ti fy ffydd i trwy weithredoedd. 19 Yr wyt ti'n credu bod Duw yn un. Da iawn! Y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu hynny, ac yn crynu. 20 Y ffu373?l, a oes rhaid dy argyhoeddi mai diwerth yw ffydd heb weithredoedd? 21 Onid trwy ei weith-redoedd y cyfiawnhawyd Abraham, ein tad, pan offrymodd ef Isaac, ei fab, ar yr allor? 22 Y mae'n eglur iti mai cydweithio �'i weithredoedd yr oedd ei ffydd, ac mai trwy'r gweithredoedd y cafodd ei ffydd ei mynegi'n berffaith. 23 Felly cyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud, "Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder"; a galwyd ef yn gyfaill Duw. 24 Fe welwch felly mai trwy weithredoedd y mae rhywun yn cael ei gyfiawnhau, ac nid trwy ffydd yn unig. 25 Yn yr un modd hefyd, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd Rahab, y butain, pan dderbyniodd hi'r negeswyr a'u hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd arall? 26 Fel y mae'r corff heb anadl yn farw, felly hefyd y mae ffydd heb weithredoedd yn farw.