1 Fy nghyfeillion, peidiwch � thyrru i fod yn athrawon, oherwydd fe wyddoch y byddwn ni'r athrawon yn cael ein barnu'n llymach. 2 Oherwydd y mae mynych lithriad yn hanes pawb ohonom. Os gall rhywun ymgadw rhag llithro yn ei ymadrodd, dyma un perffaith, �'r gallu ganddo i ffrwyno ei holl gorff hefyd. 3 Yr ydym yn rhoi'r ffrwyn yng ngenau'r march i'w wneud yn ufudd inni, ac yna gallwn droi ei gorff cyfan. 4 A llongau yr un modd; hyd yn oed os ydynt yn llongau mawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, gellir eu troi � llyw bychan iawn i ba gyfeiriad bynnag y mae'r peilot yn ei ddymuno. 5 Felly hefyd y mae'r tafod; aelod bychan ydyw, ond y mae'n honni pethau mawr. Ystyriwch fel y mae gwreichionen fechan yn gallu rhoi coedwig fawr ar d�n. 6 A th�n yw'r tafod; byd o anghyfiawnder ydyw, wedi ei osod ymhlith ein haelodau, yn halogi'r corff i gyd, ac yn rhoi holl gylch ein bodolaeth ar d�n wrth iddo ef ei hun gael ei roi ar d�n gan uffern. 7 Y mae'r hil ddynol yn gallu rheoli pob math o anifeiliaid ac adar, o ymlusgiaid a physgod; yn wir, y mae wedi eu rheoli. 8 Ond nid oes neb sy'n gallu rheoli'r tafod. Drwg diorffwys yw, yn llawn o wenwyn marwol. 9 �'r tafod yr ydym yn bendithio'r Arglwydd a'r Tad; �'r tafod hefyd yr ydym yn melltithio'r rhai a luniwyd ar ddelw Duw. 10 o'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod. 11 A welir du373?r peraidd a du373?r chwerw yn tarddu o lygad yr un ffynnon? 12 A yw'r pren ffigys, fy nghyfeillion, yn gallu dwyn olifiau, neu'r winwydden ffigys? Nac ydyw, ac ni ddaw du373?r peraidd o ddu373?r hallt chwaith. 13 Pwy sy'n ddoeth a deallus yn eich plith? Gadewch i hwnnw, trwy ei ymarweddiad da, ddangos ei weithredoedd mewn gwyleidd-dra sy'n dod o ddoethineb. 14 Ond os ydych yn coleddu eiddigedd chwerw ac uchelgais hunanol yn eich calon, peidiwch ag ymffrostio a dweud celwydd yn erbyn y gwirionedd. 15 Nid dyma'r ddoethineb sy'n disgyn oddi uchod; peth daearol yw, peth bydol a chythreulig. 16 Oherwydd lle bynnag y mae cenfigen ac uchelgais hunanol, yno hefyd y mae anhrefn a phob gweithred ddrwg. 17 Ond am y ddoethineb sydd oddi uchod, y mae hon yn y lle cyntaf yn bur, ac yna'n heddychol, yn dirion, yn hawdd ymwneud � hi, yn llawn o drugaredd a'i ffrwythau daionus, yn ddiragfarn ac yn ddiragrith. 18 Y mae cynhaeaf cyfiawnder yn cael ei hau mewn heddwch i'r rhai sy'n gwneud heddwch.