1 Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, du375? Israel. 2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Peidiwch � dysgu ffordd y cenhedloedd, na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd, fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt. 3 Y mae arferion y bobloedd fel eilun � pren wedi ei gymynu o'r goedwig, gwaith dwylo saer � bwyell; 4 ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur, y maent yn ei sicrhau � morthwyl a hoelion, rhag iddo symud. 5 Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch �'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith." 6 Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt, mawr yw dy enw mewn nerth. 7 Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd? Hyn sy'n gweddu i ti. Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi. 8 Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd, wedi eu dysgu gan eilunod o bren! 9 Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y saer a dwylo'r eurych; a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor � gwaith crefftwyr ydyw i gyd. 10 Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw; ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol; y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid, ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter. 11 Fel hyn y dywedwch wrthynt: "Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe g�nt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd." 12 Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth, sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall. 13 Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear. Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai. 14 Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt. 15 Oferedd u375?nt, a gwaith i'w wawdio; yn amser eu cosbi fe'u difethir. 16 Nid yw Duw Jacob fel y rhain, oherwydd ef yw lluniwr pob peth, ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. 17 Casgla dy bwn a dos allan o'r wlad, ti, yr hon sy'n trigo dan warchae. 18 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dyma fi'n taflu allan drigolion y wlad y tro hwn; dygaf arnynt gyfyngder, ac fe deimlant hynny." 19 Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn, ond dywedais, "Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef." 20 Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd; aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy; nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni. 21 Aeth y bugeiliaid yn ynfyd; nid ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD; am hynny nid ydynt yn llwyddo, ac y mae eu holl braidd ar wasgar. 22 Clyw! Neges! Wele, y mae'n dod! Cynnwrf mawr o dir y gogledd, i wneud dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch ac yn drigfa bleiddiaid. 23 Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd; ni pherthyn i'r teithiwr drefnu ei gamre. 24 Cosba fi, ARGLWYDD, ond mewn barn, nid yn �l dy lid, rhag iti fy niddymu. 25 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod, ac ar y teuluoedd nad ydynt yn galw ar dy enw. Canys y maent wedi bwyta Jacob, ei fwyta a'i ddifetha, ac wedi difodi ei drigfan.