Welsh

Jeremiah

11

1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: 2 "Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a llefarwch wrth bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem, 3 a dweud wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Melltith ar y sawl na wrendy ar eiriau'r cyfamod hwn, 4 a orchmynnais i'ch hynafiaid y dydd y dygais hwy allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, a dweud, "Gwrandewch arnaf, a gwnewch yn unol �'r hyn a orchmynnaf i chwi; a byddwch yn bobl i mi, a byddaf finnau'n Dduw i chwi." 5 Fel hyn y gwireddir y llw a dyngais i'ch hynafiaid, i roi iddynt wlad yn llifeirio o laeth a m�l, fel y mae heddiw.'" Atebais innau, "Amen, ARGLWYDD." 6 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cyhoedda'r holl eiriau hyn yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a dywed, 'Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a'u gwneud. 7 Oherwydd rhybuddiais eich hynafiaid o'r dydd y dygais hwy o'r Aifft hyd y dydd hwn; rhybuddiais hwy yn ddifrifol, a dweud, "Gwrandewch arnaf." 8 Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i glywed, ond rhodiodd pob un yn �l ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus. Felly dygais arnynt holl eiriau'r cyfamod hwn y gorchmynnais iddynt ei wneud ond na wnaethant.'" 9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cafwyd cynllwyn ymhlith pobl Jwda a thrigolion Jerwsalem. 10 Troesant yn �l at ddrygioni eu hynafiaid gynt pan wrthodent wrando fy ngeiriau. Aethant ar �l duwiau eraill i'w gwasanaethu, a thorrodd tu375? Israel a thu375? Jwda fy nghyfamod, a wneuthum �'u hynafiaid. 11 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwyf am ddwyn drwg arnynt na allant ei osgoi; a gwaeddant arnaf, ond ni wrandawaf. 12 Yna fe � dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem i weiddi ar y duwiau yr arferent arogldarthu iddynt, ond yn sicr ni allant hwy eu gwaredu yn amser eu drygfyd. 13 Yn wir, y mae dy dduwiau mor aml �'th ddinasoedd, O Jwda, ac wrth nifer heolydd Jerwsalem codasoch allorau er cywilydd, allorau i arogldarthu i Baal. 14 "Ond amdanat ti, paid � gwedd�o dros y bobl hyn, na chodi cri na gweddi, oherwydd ni fynnaf wrando pan alwant arnaf yn ystod eu drygfyd. 15 "Beth sydd a wnelo f'anwylyd �'m tu375?, a hithau'n cyflawni gweithredoedd ysgeler? A all llwon, neu gig sanctaidd, droi dy ddinistr heibio, fel y gelli lawenychu? 16 Olewydden ddeiliog deg a ffrwythlon y galwodd yr ARGLWYDD di; ond � thrwst cynnwrf mawr fe gyneua d�n ynddi, ac ysir ei changau. 17 ARGLWYDD y Lluoedd, yr un a'th blannodd, a draetha ddrwg yn dy erbyn, oherwydd y drygioni a wnaeth tu375? Israel a thu375? Jwda, gan fy nigio ac arogldarthu i Baal." 18 Yr ARGLWYDD a'm hysbysodd, a mi a'i gwn; dangosodd i mi eu gweith-redoedd. 19 Yr oeddwn innau fel oen tyner yn cael ei arwain i'w ladd, ac ni wyddwn mai ar fy nghyfer i y gosodent gynllwynion, gan ddweud, "Distrywiwn y pren a'i ffrwyth; torrwn ef ymaith o dir y rhai byw, fel na chofir ei enw mwy." 20 O ARGLWYDD y Lluoedd, barnwr cyfiawn, chwiliwr y galon a'r deall, rho i mi weld dy ddialedd arnynt, canys i ti y datguddiaf fy nghwyn. 21 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am bobl Anathoth, sydd yn ceisio fy einioes ac yn dweud, "Paid � phroffwydo mwyach yn enw yr ARGLWYDD, ac ni fyddi farw trwy ein dwylo ni." 22 Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Rwyf am ddial arnynt; bydd eu gwu375?r ifainc farw trwy'r cleddyf, a'u meibion a'u merched o newyn; 23 ac ni bydd gweddill ohonynt. Dygaf ddrygfyd ar bobl Anathoth ym mlwyddyn eu cosbi."