1 "Y mae pob un a anwyd o wraig yn fyr ei oes ac yn llawn helbul. 2 Y mae fel blodeuyn yn tyfu ac yna'n gwywo; diflanna fel cysgod ac nid erys. 3 A roi di sylw i un fel hyn, a'i ddwyn ef i farn gyda thi? 4 Pwy a gaiff lendid allan o aflendid? Neb! 5 Gan fod terfyn i'w ddyddiau, a chan iti rifo'i fisoedd, a gosod iddo ffin nas croesir, 6 yna tro oddi wrtho fel y caiff lonydd, fel gwas cyflog yn mwynhau ei ddiwrnod gwaith. 7 "Er i goeden gael ei thorri, y mae gobaith iddi ailflaguro, ac ni pheidia ei blagur � thyfu. 8 Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear, ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd, 9 pan synhwyra ddu373?r fe adfywia, ac fe flagura fel planhigyn ifanc. 10 Ond pan fydd rhywun farw, �'n ddi-nerth, a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach. 11 Derfydd y du373?r o'r llyn; disbyddir a sychir yr afon; 12 felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd, ni ddeffry tra pery'r nefoedd, ac nis cynhyrfir o'i gwsg. 13 O na bait yn fy nghuddio yn Sheol, ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio, a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof! 14 (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?) Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur, hyd nes i'm rhyddhad ddod. 15 Gelwit arnaf, ac atebwn innau; hiraethit am waith dy ddwylo. 16 Yna cedwit gyfrif o'm camre, heb wylio fy mhechod; 17 selid fy nhrosedd mewn cod, a chuddid fy nghamwedd. 18 "Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro, ac fel y symud y graig o'i lle, 19 ac fel y treulir y cerrig gan ddyfroedd, ac y golchir ymaith bridd y ddaear gan lifogydd, felly y gwnei i obaith meidrolyn ddiflannu. 20 Parhei i'w orthrymu nes derfydd; newidi ei wedd, a'i ollwng. 21 Pan anrhydeddir ei blant, ni u373?yr; pan ddarostyngir hwy, ni sylwa. 22 Ei gnawd ei hun yn unig sy'n ei boeni, a'i fywyd ei hun sy'n ei ofidio."