1 Yna atebodd Eliffas y Temaniad: 2 "Ai ateb � gwybodaeth nad yw'n ddim ond gwynt a wna'r doeth, a llenwi ei fol �'r dwyreinwynt? 3 A ddadleua ef � gair di-fudd, ac � geiriau di-les? 4 Ond yr wyt ti'n diddymu duwioldeb, ac yn rhwystro defosiwn gerbron Duw. 5 Oherwydd dy gamwedd sy'n hyfforddi dy enau, ac ymadrodd y cyfrwys a ddewisi. 6 Dy enau dy hun sy'n dy gondemnio, nid myfi, a'th wefusau di sy'n tystio yn dy erbyn. 7 "Ai ti a anwyd y cyntaf o bawb? A ddygwyd di i'r byd cyn y bryniau? 8 A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach Duw, ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun? 9 Beth a wyddost ti na wyddom ni? Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau? 10 Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus, rhai sy'n hu375?n na'th dad. 11 Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw, a'r gair a ddaw'n ddistaw atat? 12 Beth a ddaeth dros dy feddwl? Pam y mae dy lygaid yn fflachio 13 fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw, ac yn arllwys y geiriau hyn? 14 Sut y gall neb fod yn ddieuog, ac un a anwyd o wraig fod yn gyfiawn? 15 Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd, os nad yw'r nefoedd yn l�n yn ei olwg, 16 beth ynteu am feidrolyn, sy'n ffiaidd a llwgr, ac yn yfed anghyfiawnder fel du373?r? 17 "Dangosaf iti; gwrando dithau arnaf. Mynegaf i ti yr hyn a welais 18 (yr hyn y mae'r doethion wedi ei ddweud, ac nad yw wedi ei guddio oddi wrth eu hynafiaid; 19 iddynt hwy yn unig y rhoddwyd y ddaear, ac ni thramwyodd dieithryn yn eu plith): 20 bydd yr annuwiol mewn helbul holl ddyddiau ei oes, trwy gydol y blynyddoedd a bennwyd i'r creulon. 21 Su373?n dychryniadau sydd yn ei glustiau, a daw'r dinistriwr arno yn awr ei lwyddiant. 22 Nid oes iddo obaith dychwelyd o'r tywyllwch; y mae wedi ei dynghedu i'r cleddyf. 23 Crwydryn yw, ac ysglyfaeth i'r fwltur; gu373?yr mai diwrnod tywyll sydd wedi ei bennu iddo. 24 Brawychir ef gan ofid a chyfyngder; llethir ef fel brenin parod i ymosod. 25 Oherwydd iddo estyn ei law yn erbyn Duw, ac ymffrostio yn erbyn yr Hollalluog, 26 a rhuthro arno'n haerllug, a both ei darian yn drwchus; 27 oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster, ac i'w lwynau dewychu � bloneg, 28 fe drig mewn dinasoedd diffaith, mewn tai heb neb yn byw ynddynt, lleoedd sydd ar fin adfeilio. 29 Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth, ac ni chynydda'i olud yn y tir. 30 Ni ddianc rhag y tywyllwch. Deifir ei frig gan y fflam, a syrth ei flagur yn y gwynt. 31 Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun, canys gwagedd fydd ei d�l. 32 Bydd yn gwywo cyn ei amser, ac ni lasa'i gangen. 33 Dihidla'i rawnwin anaeddfed fel gwinwydden, a bwrw ei flodau fel olewydden. 34 Diffrwyth yw cwmni'r annuwiol, ac fe ysa'r t�n drigfannau breibwyr. 35 Beichiogant ar flinder ac ymddu373?yn drwg, ac ar dwyll yr esgor eu croth."