Welsh

Job

17

1 "Llesgaodd fy ysbryd, ciliodd fy nyddiau; beddrod fydd fy rhan. 2 Yn wir y mae gwatwarwyr o'm cwmpas; pyla fy llygaid wrth iddynt wawdio. 3 "Gosod dy hun yn feichiau drosof; pwy arall a rydd wystl ar fy rhan? 4 Oherwydd iti gadw eu calon rhag deall, ni fydd i ti eu dyrchafu. 5 Pan fydd rhywun yn gwenieithu ei gyfeillion, bydd llygaid ei blant yn pylu. 6 "Gwnaeth fi'n ddihareb i'r bobl; yr wyf yn un y maent yn poeri arno. 7 Pylodd fy llygaid o achos gofid; aeth fy nghorff i gyd fel cysgod. 8 Synna'r cyfiawn at y fath beth, a ffyrniga'r uniawn yn erbyn yr annuwiol. 9 Fe geidw'r cyfiawn at ei ffordd, a bydd y gl�n ei ddwylo yn ychwanegu nerth. 10 Pe baech i gyd yn rhoi ailgynnig, eto ni chawn neb doeth yn eich plith. 11 "Ciliodd fy nyddiau; methodd f'amcanion a dyhead fy nghalon. 12 Gwn�nt y nos yn ddydd � dewisant weld goleuni er gwaethaf y tywyllwch. 13 Pa obaith sydd gennyf? Sheol fydd fy nghartref; cyweiriaf fy ngwely yn y tywyllwch; 14 dywedaf wrth y pwll, 'Ti yw fy nhad', ac wrth lyngyr, 'Fy mam a'm chwaer'. 15 Ble, felly, y mae fy ngobaith? A phwy a w�l obaith imi? 16 Oni ddisgyn y rhai hyn i Sheol? Onid awn i gyd i'r llwch?"