1 Yna atebodd Bildad y Suhiad: 2 "Pa bryd y rhowch derfyn ar eiriau? Ystyriwch yn bwyllog, yna gallwn siarad. 3 Pam yr ystyrir ni fel anifeiliaid, ac y cyfrifir ni'n hurt yn eich golwg? 4 Un yn ei rwygo'i hun yn ei lid! A wneir y ddaear yn ddiffaith er dy fwyn di? A symudir y graig o'i lle? 5 "Fe ddiffydd goleuni'r drygionus, ac ni chynnau fflam ei d�n. 6 Fe dywylla'r goleuni yn ei babell, a diffydd ei lamp uwch ei ben. 7 Byrhau a wna'i gamau cryfion, a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio. 8 Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun; y mae'n sangu ar y rhwydwaith. 9 Cydia'r trap yn ei sawdl, ac fe'i delir yn y groglath. 10 Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear, ac y mae magl ar ei lwybr. 11 Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn, ac yn ymlid ar ei �l. 12 Pan ddaw pall ar ei gryfder, yna y mae dinistr yn barod am ei gwymp. 13 Ysir ei groen gan glefyd, a llyncir ei aelodau gan Gyntafanedig Angau; 14 yna cipir ef o'r babell yr ymddiriedai ef ynddi, a'i ddwyn at Frenin Braw. 15 Bydd estron yn trigo yn ei babell, a gwasgerir brwmstan ar ei annedd. 16 "Crina'i wraidd oddi tanodd, a gwywa'i ganghennau uwchben. 17 Derfydd y cof amdano o'r tir, ac nid erys ei enw yn y wlad. 18 Fe'i gwthir o oleuni i dywyllwch, ac erlidir ef o'r byd. 19 Ni bydd disgynnydd na hil iddo ymysg ei bobl, nac olynydd iddo yn ei drigfan. 20 Synnant yn y Gorllewin o achos ei dynged, ac arswydant yn y Dwyrain. 21 Yn wir dyma drigfannau'r anghyfiawn; hwn yw lle'r un nad yw'n adnabod Duw."