1 Atebodd Job: 2 "Gwrandewch eto ar fy ngeiriau; felly y rhowch gysur imi. 3 Goddefwch i mi lefaru, ac wedi imi lefaru, cewch watwar. 4 Oni chaf ddweud fy nghwyn wrth rywun? a pham na chaf fod yn ddiamynedd? 5 Edrychwch arnaf, a synnwch, a rhowch eich llaw ar eich genau. 6 Pan ystyriaf hyn, rwy'n arswydo, a daw cryndod i'm cnawd. 7 "Pam y caiff yr annuwiol fyw, a heneiddio'n gadarnach eu nerth? 8 Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas, a'u teulu yn eu hymyl. 9 Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn, ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt. 10 Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth, a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu. 11 Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid, a dawnsia'u plant yn hapus. 12 Canant gyda'r dympan a'r delyn, a byddant lawen wrth su373?n y pibau. 13 Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd, a disgynnant i Sheol mewn heddwch. 14 Dywedant wrth Dduw, 'Cilia oddi wrthym; ni fynnwn wybod dy ffyrdd. 15 Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu, a pha fantais sydd inni os gwedd�wn arno?' 16 "Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant? Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw. 17 "Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol, ac y daw eu dinistr arnynt hwy, ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid? 18 A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt, neu fel us a ddygir ymaith gan y storm? 19 A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant? Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng. 20 Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr, ac yfed o lid yr Hollalluog. 21 Pa ddiddordeb fydd ganddo yn ei deulu ar ei �l, pan fydd nifer ei fisoedd wedi darfod? 22 "A ellir dysgu gwybodaeth i Dduw? Onid ef sy'n barnu'r beilchion? 23 "Bydd un farw yn ei lwyddiant, mewn llonyddwch a thawelwch, 24 ei lwynau yn llawn braster, a m�r ei esgyrn yn iraidd. 25 Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd, heb brofi daioni. 26 Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd, a'r pryfed yn amdo drostynt. 27 "Yn awr gwn eich meddyliau, a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu; 28 oherwydd dywedwch, 'Ble'r aeth tu375?'r pendefig? a phle mae trigfannau'r annuwiol?' 29 Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd? Onid ydych yn adnabod yr arwyddion, 30 yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr, ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint? 31 Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb? Pwy a d�l yn �l iddo am yr hyn a wnaeth? 32 Pan ddygir ef i'r bedd, cedwir gwyliadwriaeth ar ei feddrod. 33 Y mae tywyrch y fynwent yn dyner arno; bydd gorymdaith yn dilyn ar ei �l, a thyrfa niferus yn cerdded o'i flaen. 34 Sut, felly, y mae eich gwagedd yn gysur i mi? Nid oes ond twyll yn eich atebion."