Welsh

Job

22

1 Yna atebodd Eliffas y Temaniad: 2 "A yw unrhyw un o werth i Dduw? Onid iddo'i hun y mae'r doeth o werth? 3 A oes boddhad i'r Hollalluog pan wyt yn gyfiawn, neu elw iddo pan wyt yn rhodio'n gywir? 4 Ai am dy dduwioldeb y mae'n dy geryddu, ac yn dy ddwyn i farn? 5 Onid yw dy ddrygioni'n fawr, a'th gamwedd yn ddiderfyn? 6 Cymeri wystl gan dy gymrodyr yn ddiachos, a dygi ymaith ddillad y tlawd. 7 Ni roddi ddu373?r i'r lluddedig i'w yfed, a gwrthodi fara i'r newynog. 8 Y cryf sy'n meddiannu'r tir, a'r ffefryn a drig ynddo. 9 Gyrri'r weddw ymaith yn waglaw, ac ysigi freichiau'r amddifad. 10 Am hyn y mae maglau o'th gwmpas, a daw ofn disymwth i'th lethu, 11 a thywyllwch fel na elli weld, a bydd dyfroedd yn dy orchuddio. 12 "Onid yw Duw yn uchder y nefoedd yn edrych i lawr ar y s�r sy mor uchel? 13 Felly dywedi, 'Beth a u373?yr Duw? A all ef farnu trwy'r tywyllwch? 14 Cymylau na w�l trwyddynt sy'n ei guddio, ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.' 15 A gedwi di at yr hen ffordd y rhodiodd y drygionus ynddi? 16 Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd, pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon. 17 Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, 'Cilia oddi wrthym'. Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy? 18 Er iddo lenwi eu tai � daioni, pell yw cyngor y drygionus oddi wrtho. 19 Gw�l y cyfiawn hyn, a llawenha; a gwatwerir hwy gan y dieuog. 20 Yn wir, dinistriwyd eu cynhaeaf, ac ysodd y t�n eu llawnder. 21 "Cytuna ag ef, a chei lwyddiant; trwy hyn y daw daioni i ti. 22 Derbyn gyfarwyddyd o'i enau, a chadw ei eiriau yn dy galon. 23 Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd, a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell, 24 os ystyri aur fel pridd, aur Offir fel cerrig y nentydd, 25 yna bydd yr Hollalluog yn aur iti, ac yn arian pur. 26 Yna cei ymhyfrydu yn yr Hollalluog, a dyrchafu dy wyneb at Dduw. 27 Cei wedd�o arno, ac fe'th wrendy, a byddi'n cyflawni dy addunedau. 28 Pan wnei gynllun, fe lwydda iti, a llewyrcha goleuni ar dy ffyrdd. 29 Fe ddarostyngir y rhai a ystyri'n falch; yr isel ei fryd a wareda ef. 30 Fe achub ef y dieuog; achubir ef am fod ei ddwylo'n l�n."