Welsh

Job

23

1 Atebodd Job: 2 "Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw, a'i law sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid. 3 O na wyddwn ble y cawn ef, a pha fodd i ddod at ei drigfan! 4 Yna gosodwn fy achos o'i flaen, a llenwi fy ngenau � dadleuon. 5 Mynnwn wybod sut yr atebai fi, a deall beth a ddywedai wrthyf. 6 Ai gyda'i holl nerth y dadleuai � mi? Na, ond fe roddai sylw imi. 7 Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef, a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr. 8 "Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno; ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef. 9 Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf; os try i'r de, nis gwelaf. 10 Ond y mae ef yn deall fy ffordd; wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur. 11 Dilyn fy nhroed ei lwybr; cadwaf ei ffordd heb wyro. 12 Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau; cadwaf ei eiriau yn fy mynwes. 13 Erys ef yr un, a phwy a'i try? Fe wna beth bynnag a ddymuna. 14 Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben, fel llawer o rai eraill sydd ganddo. 15 Am hyn yr arswydaf rhagddo; pan ystyriaf, fe'i hofnaf. 16 Duw sy'n gwanychu fy nghalon; yr Hollalluog sy'n fy nychryn; 17 nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf, na'r fagddu'n fy nghuddio.