Welsh

Job

26

1 Yna atebodd Job: 2 "O fel yr wyt ti wedi cynorthwyo'r di-rym, a chynnal braich y di-nerth, 3 a rhoi cyngor i'r diddeall, a mynegi digonedd o wir ddoethineb! 4 I bwy yr oeddit yn traethu geiriau, a pha ysbryd a ddaeth allan ohonot? 5 Cryna'r cysgodion yn y dyfnder, a'r dyfroedd hefyd, a'r rhai sy'n trigo ynddynt. 6 Y mae Sheol yn noeth ger ei fron, ac nid oes gorchudd dros Abadon. 7 Taena'r gogledd ar y gwagle, a gesyd y ddaear ar ddim. 8 Rhwyma'r dyfroedd yn ei gymylau, ac ni rwygir y cwmwl odanynt. 9 Taena orchudd dros wyneb y lloer, a thyn ei gwmwl drosto. 10 Gesyd gylch ar wyneb y dyfroedd, yn derfyn rhwng goleuni a thywyllwch. 11 Sigla colofnau'r nefoedd, a dychrynant pan gerydda. 12 Tawelodd y m�r �'i nerth, a thrawodd Rahab trwy ei ddoethineb. 13 Cliriodd y nefoedd �'i wynt; trywanodd ei law y sarff wibiog. 14 Eto nid yw hyn ond ymylon ei ffyrdd; prin sibrwd a glywsom am yr hyn a wnaeth. Ond pwy a ddirnad drawiad ei nerth?"