Welsh

Job

27

1 Aeth Job ymlaen �'i ddadl, gan ddweud: 2 "Cyn wired � bod Duw yn fyw, a droes o'r neilltu fy achos, a'r Hollalluog, a wnaeth fy einioes yn chwerw, 3 tra bydd anadl ynof, ac ysbryd Duw yn fy ffroenau, 4 ni chaiff fy ngenau lefaru twyll, na'm tafod ddweud celwydd! 5 Pell y bo imi ddweud eich bod chwi'n iawn! Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw. 6 Daliaf yn ddiysgog at fy nghyfiawnder, ac nid yw fy nghalon yn fy ngheryddu am fy muchedd. 7 "Bydded fy ngelyn fel y drygionus, a'm gwrthwynebwr fel y twyllodrus. 8 Oherwydd pa obaith sydd i'r annuwiol pan dorrir ef i lawr, a phan gymer Duw ei einioes oddi arno? 9 A wrendy Duw ar ei gri pan ddaw gofid iddo? 10 A yw ef yn ymhyfrydu yn yr Hollalluog? A eilw ef ar Dduw yn gyson? 11 Dysgaf chwi am allu Duw, ac ni chuddiaf ddim o'r hyn sydd gan yr Hollalluog. 12 Yn wir yr ydych chwi i gyd wedi ei weld eich hunain; pam, felly, yr ydych mor gwbl ynfyd? 13 "Dyma dynged y drygionus oddi wrth Dduw, ac etifeddiaeth y gormeswr gan yr Hollalluog: 14 os yw ei blant yn niferus, y cleddyf fydd eu rhan, ac ni ddigonir ei hiliogaeth � bwyd. 15 Y rhai a edy ar ei �l, fe'u cleddir o bla, ac ni wyla'u gweddwon amdanynt. 16 Er iddo bentyrru arian fel llwch a darparu dillad fel clai, 17 er iddo ef eu darparu, fe'u gwisgir gan y cyfiawn, a'r diniwed a ranna'r arian. 18 Y mae'n adeiladu ei du375? fel y pryf copyn, ac fel y bwth a wna'r gwyliwr. 19 Pan � i gysgu, y mae ganddo gyfoeth, ond ni all ei gadw; pan yw'n agor ei lygaid, nid oes ganddo ddim. 20 Daw ofnau drosto fel llifogydd, a chipia'r storm ef ymaith yn y nos. 21 Cipia gwynt y dwyrain ef, a diflanna; fe'i hysguba o'i le. 22 Hyrddia arno'n ddidrugaredd, er iddo ymdrechu i ffoi o'i afael. 23 Cura'i ddwylo arno, a'i hysio o'i le."