Welsh

Job

28

1 Y mae gwyth�en i arian, a gwely i'r aur a burir. 2 Tynnir yr haearn o'r ddaear, a thoddir y garreg yn gopr. 3 Rhydd dyn derfyn ar dywyllwch, a chwilio hyd yr eithaf am y mwyn yn y tywyllwch dudew. 4 Agorir pyllau yn y cymoedd ymhell oddi wrth bawb; fe'u hanghofiwyd gan y teithwyr. Y maent yn hongian ymhell o olwg pobl, gan siglo'n �l ac ymlaen. 5 Ceir bwyd o'r ddaear, eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan d�n. 6 Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir, a llwch aur sydd ynddi. 7 Y mae llwybr na u373?yr hebog amdano, ac nas gwelwyd gan lygad barcud, 8 ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar, ac na theithiodd y llew arno. 9 Estyn dyn ei law am y gallestr, a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl. 10 Egyr dwnelau yn y creigiau, a gw�l ei lygaid bopeth gwerthfawr. 11 Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd, a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt. 12 Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigfan deall? 13 Ni u373?yr neb ble mae ei chartref, ac nis ceir yn nhir y byw. 14 Dywed y dyfnder, "Nid yw gyda mi"; dywed y m�r yntau, "Nid yw ynof fi." 15 Ni ellir rhoi aur yn d�l amdani, na phwyso'i gwerth mewn arian. 16 Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir, nac ychwaith �'r onyx gwerthfawr na'r saffir. 17 Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial, na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur. 18 Ni bydd s�n am gwrel a grisial; y mae meddu doethineb yn well na gemau. 19 Ni ellir cymharu ei gwerth �'r topas o Ethiopia, ac nid ag aur coeth y prisir hi. 20 O ble y daw doethineb? a phle mae trigfan deall? 21 Cuddiwyd hi oddi wrth lygaid popeth byw, a hefyd oddi wrth adar y nefoedd. 22 Dywedodd Abadon a marwolaeth, "Clywsom �'n clustiau s�n amdani." 23 Duw sy'n deall ei ffordd; y mae ef yn gwybod ei lle. 24 Oherwydd gall ef edrych i derfynau'r ddaear, a gweld popeth sy dan y nefoedd. 25 Pan roddodd ef ei bwysau i'r gwynt, a rhannu'r dyfroedd � mesur, 26 a gosod terfyn i'r glaw, a ffordd i'r mellt a'r taranau, 27 yna fe'i gwelodd hi a'i mynegi, fe'i sefydlodd hi a'i chwilio allan. 28 A dywedodd wrth ddynolryw, "Ofn yr ARGLWYDD yw doethineb, a chilio oddi wrth ddrwg yw deall."