Welsh

Job

29

1 Aeth Job ymlaen �'i ddadl, gan ddweud: 2 "O na byddwn fel yn yr amser gynt, yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod, 3 pan wn�i i'w lamp oleuo uwch fy mhen, a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch; 4 pan oeddwn yn nyddiau f'anterth, a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan; 5 pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi, a'm plant o'm cwmpas. 6 Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth, ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi. 7 "Awn allan i borth y ddinas, ac eisteddwn yn fy sedd ar y sgw�r; 8 a phan welai'r llanciau fi, cilient, a chodai'r hynafgwyr ar eu traed; 9 peidiai'r arweinwyr � llefaru, a rhoddent eu llaw ar eu genau; 10 tawai siarad y pendefigion, a glynai eu tafod wrth daflod eu genau. 11 "Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd, a phan welai llygad, canmolai fi; 12 oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai, a'r amddifad a'r diymgeledd. 13 Bendith yr un ar ddarfod amdano a dd�i arnaf, a gwnawn i galon y weddw lawenhau. 14 Gwisgwn gyfiawnder fel dillad amdanaf; yr oedd fy marn fel mantell a thwrban. 15 Yr oeddwn yn llygaid i'r dall, ac yn draed i'r cloff. 16 Yr oeddwn yn dad i'r tlawd, a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn. 17 Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn, a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau. 18 Yna dywedais, 'Byddaf farw yn f'anterth, a'm dyddiau mor niferus �'r tywod, 19 a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd, a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau, 20 a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd, a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.' 21 "Gwrandawai pobl arnaf, a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor. 22 Wedi imi lefaru, ni ddywedent air; diferai fy ngeiriau arnynt. 23 Disgwylient wrthyf fel am y glaw, ac agorent eu genau fel am law y gwanwyn. 24 Pan wenwn arnynt, oni chaent hyder? A phan lewyrchai fy wyneb, ni fyddent brudd. 25 Dewiswn eu ffordd iddynt, ac eistedd yn ben arnynt; eisteddwn fel brenin yng nghanol ei lu, fel un yn cysuro'r galarus.