Welsh

Job

37

1 "Am hyn hefyd y mae fy nghalon yn cynhyrfu, ac yn llamu o'i lle. 2 Gwrandewch ar daran ei lais, a'r atsain a ddaw o'i enau. 3 Y mae'n ei yrru ar draws yr wybren, ac yn gyrru ei fellt i gilfachau'r byd. 4 Ar eu h�l fe rua; tarana �'i lais mawr, ac nid yw'n eu hatal pan glywir ei lais. 5 Tarana Duw yn rhyfeddol �'i lais; gwna wyrthiau, y tu hwnt i'n deall. 6 Fe ddywed wrth yr eira, 'Disgyn ar y ddaear', ac wrth y glaw a'r cawodydd, 'Trymhewch'. 7 Y mae pob un yn cael ei gau i mewn, a phopeth a wn�nt yn cael ei atal. 8 �'r anifeiliaid i'w ffeuau, ac aros yn eu gw�l. 9 Daw'r corwynt allan o'i ystafell, ac oerni o'r tymhestloedd. 10 Daw anadl Duw �'r rhew, a rhewa'r llynnoedd yn galed. 11 Lleinw'r cwmwl hefyd � gwlybaniaeth, a gwasgara'r cwmwl ei fellt. 12 Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn, i wneud y cyfan a ddywed wrthynt, dros wyneb daear gyfan. 13 "Gwna hyn naill ai fel cosb, neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd. 14 "Gwrando ar hyn, Job; aros ac ystyria ryfeddodau Duw. 15 A wyt ti'n deall sut y mae Duw yn trefnu, ac yn gwneud i'r mellt fflachio yn ei gwmwl? 16 A wyt ti'n deall symudiadau'r cymylau, rhyfeddodau un perffaith ei wybodaeth? 17 Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad pan fydd y ddaear yn swrth dan wynt y de, 18 a fedrit ti, fel ef, daenu'r wybren, sy'n galed fel drych o fetel tawdd? 19 Dywed wrthym beth i'w ddweud wrtho; oherwydd y tywyllwch ni allwn ni drefnu'n hachos. 20 A ellir dweud wrtho, 'Yr wyf fi am lefaru', neu fynegi iddo, 'Y mae hwn am siarad'? 21 "Ond yn awr, ni all neb edrych ar y goleuni pan yw'n ddisglair yn yr awyr, a'r gwynt wedi dod a'i chlirio. 22 Disgleiria o'r gogledd fel aur; o gwmpas Duw y mae ysblander ofnadwy. 23 Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog, y mae'n fawr ei nerth; yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam. 24 Am hyn, y mae pawb yn ei ofni, a phob un doeth yn edrych ato."