1 Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt: 2 "Pwy yw hwn sy'n tywyllu cyngor � geiriau diwybod? 3 Gwna dy hun yn barod i'r ornest; fe holaf fi di, a chei dithau ateb. 4 "Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear? Ateb, os gwyddost. 5 Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siu373?r dy fod yn gwybod! Pwy a estynnodd linyn mesur arni? 6 Ar beth y seiliwyd ei sylfeini, a phwy a osododd ei chonglfaen? 7 Ble'r oeddit ti pan oedd s�r y bore i gyd yn llawenhau, a'r holl angylion yn gorfoleddu, 8 pan gaewyd ar y m�r � dorau, pan lamai allan o'r groth, 9 pan osodais gwmwl yn wisg amdano, a'r caddug yn rhwymyn iddo, 10 a phan drefnais derfyn iddo, a gosod barrau a dorau, 11 a dweud, 'Hyd yma yr ei, a dim pellach, ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau'? 12 "A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y bore a dangos ei lle i'r wawr, 13 er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear, i ysgwyd y drygionus ohoni? 14 Y mae'n newid ffurf fel clai dan y s�l, ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn. 15 Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus, a thorrir y fraich ddyrchafedig. 16 "A fedri di fynd at ffynhonnell y m�r, neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder? 17 A agorwyd pyrth angau i ti, neu a welaist ti byrth y fagddu? 18 A fedri di ddirnad maint y ddaear? Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd. 19 "Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni, ac i le tywyllwch, 20 fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn, a gwybod y llwybr i'w thu375?? 21 Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno, a bod nifer dy ddyddiau yn fawr! 22 "A fuost ti yn ystordai'r eira, neu'n gweld cistiau'r cesair? 23 Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod, at ddydd brwydr a rhyfel. 24 Prun yw'r ffordd i'r fan lle y rhennir goleuni, ac y gwasgerir gwynt y dwyrain ar y ddaear? 25 "Pwy a wnaeth sianel i'r cenllif glaw, a llwybr i'r daranfollt, 26 i lawio ar dir heb neb ynddo, a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo, 27 i ddigoni'r tir diffaith ac anial, a pheri i laswellt dyfu yno? 28 "A oes tad i'r glaw? Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith? 29 O groth pwy y daw'r rhew? A phwy a genhedlodd y llwydrew, 30 i galedu'r dyfroedd fel carreg, a rhewi wyneb y dyfnder? 31 A fedri di gau cadwynau Pleiades, neu ddatod rhwymau Orion? 32 A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd, a thywys yr Arth gyda'i phlant? 33 A wyddost ti reolau'r awyr? A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn? 34 "A fedri di alw ar y cwmwl i beri i ddyfroedd lifo drosot? 35 A fedri di roi gorchymyn i'r mellt, iddynt ddod atat a dweud, 'Dyma ni'? 36 Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau, a deall i'r niwl? 37 Gan bwy y mae digon o ddoethineb i gyfrif y cymylau? A phwy a wna i gostrelau'r nefoedd arllwys, 38 nes bod llwch yn mynd yn llaid, a'r tywyrch yn glynu wrth ei gilydd? 39 "Ai ti sydd yn hela ysglyfaeth i'r llew, a diwallu angen y llewod ifanc, 40 pan grymant yn eu gw�l, ac aros dan lwyn am helfa? 41 Pwy sy'n trefnu bwyd i'r fr�n, pan waedda'r cywion ar Dduw, a hedfan o amgylch heb fwyd?