Welsh

Job

39

1 "A wyddost ti amser llydnu y geifr gwylltion? A fuost ti'n gwylio'r ewigod yn esgor, 2 yn cyfrif y misoedd a gyflawnant ac yn gwybod amser eu llydnu? 3 Y maent yn crymu i eni eu llydnod, ac yn bwrw eu brych. 4 Y mae eu llydnod yn cryfhau ac yn prifio yn y maes, yn mynd ymaith, ac ni dd�nt yn �l. 5 "Pwy sy'n rhoi ei ryddid i'r asyn gwyllt, ac yn datod rhwymau'r asyn cyflym 6 y rhoddais yr anialdir yn gynefin iddo, a thir diffaith yn lle iddo fyw? 7 Y mae'n gas ganddo su373?n y dref; y mae'n fyddar i floeddiadau gyrrwr. 8 Crwydra'r mynyddoedd am borfa, a chwilia am bob blewyn glas. 9 "A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth, a threulio'r nos wrth dy breseb? 10 A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych, neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy �l? 11 A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf? A adewi dy lafur iddo? 12 A ymddiriedi ynddo i ddod �'th rawn yn �l, a'i gasglu i'th lawr dyrnu? 13 "Ysgwyd yn brysur a wna adenydd yr estrys, ond heb fedru hedfan fel adenydd y garan; 14 y mae'n gadael ei hwyau ar y ddaear, i ddeor yn y pridd, 15 gan anghofio y gellir eu sathru dan draed, neu y gall anifail gwyllt eu mathru. 16 Y mae'n esgeulus o'i chywion, ac yn eu trin fel pe na baent yn perthyn iddi, heb ofni y gallai ei llafur fod yn ofer. 17 Oherwydd gadawodd Duw hi heb ddoethineb, ac nid oes ganddi ronyn o ddeall. 18 Ond pan gyfyd a rhedeg, gall chwerthin am ben march a'i farchog. 19 "Ai ti sy'n rhoi nerth i'r march, ac yn gwisgo'i war � mwng? 20 Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust, a gweryru nes creu dychryn? 21 Cura'r llawr �'i droed, ac ymffrostia yn ei nerth pan � allan i wynebu'r frwydr. 22 Y mae'n ddi-hid ac yn ddi-fraw; ni thry'n �l rhag y cleddyf. 23 O'i gwmpas y mae clep y cawell saethau, fflach y cleddyf a'r waywffon. 24 Yn aflonydd a chynhyrfus y mae'n difa'r ddaear; ni all aros yn llonydd pan glyw sain utgorn. 25 Pan glyw'r utgorn, dywed, 'Aha !' Fe synhwyra frwydr o bell, trwst y capteiniaid a'u bloedd. 26 "Ai dy ddeall di sy'n gwneud i'r hebog hedfan a lledu ei adenydd tua'r De? 27 Ai d'orchymyn di a wna i'r eryr hedfan a gosod ei nyth yn uchel? 28 Fe drig ar y graig, ac aros yno yng nghilfach y graig a'i diogelwch. 29 Oddi yno y chwilia am fwyd, gan edrych i'r pellter. 30 Y mae ei gywion yn llowcio gwaed; a phle bynnag y ceir ysgerbwd, y mae ef yno."