1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Job: 2 "A ddylai un sy'n dadlau �'r Hollalluog fod yn ystyfnig? Caiff yr un sy'n ymryson � Duw ateb am hynny." 3 Yna atebodd Job: 4 "Un dibwys wyf fi; beth allaf ei ddweud? Rhof fy llaw ar fy ngheg. 5 Yr wyf wedi llefaru unwaith, ac nid atebaf eto; do ddwywaith, ac ni chwanegaf." 6 Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt: 7 "Gwna dy hun yn barod i'r ornest; fe holaf fi di, a chei dithau ateb. 8 A wyt ti'n gwadu fy mod yn iawn, ac yn fy nghondemnio, i'th gyfiawnhau dy hun? 9 A oes gennyt nerth fel sydd gan Dduw? A fedri daranu �'th lais fel y gwna ef? 10 "Addurna dy hun � balchder ac urddas, a gwisga ogoniant a harddwch. 11 Gollwng yn rhydd angerdd dy ddig; edrych ar bob balch, i'w daflu i'r llawr. 12 Sylwa ar bob balchder, i'w ddiraddio; sathra'r rhai drygionus yn eu lle. 13 Cuddia hwy i gyd yn y llwch; cuddia'u hwynebau o'r golwg. 14 Yna fe'th ganmolaf am fod dy law dde'n dy waredu. 15 "Edrych ar Behemoth, a greais yr un adeg � thi; y mae'n bwyta glaswellt fel yr ych. 16 Y mae ei nerth yn ei lwynau, a'i gryfder yng nghyhyrau ei fol. 17 Y mae ei gynffon yn syth fel cedrwydden, a gewynnau ei gluniau wedi eu clymu i'w gilydd. 18 Y mae ei esgyrn fel pibellau pres, a'i goesau fel barrau haearn. 19 "Ef yw'r cyntaf o'r pethau a wnaeth Duw; gwnaed ef yn deyrn dros ei gymrodyr. 20 Y mae'r mynyddoedd yn darparu ysglyfaeth iddo; yr holl anifeiliaid sy'n chwarae yno. 21 Fe orwedd dan y lotus, a chuddio yn y brwyn a'r corsydd. 22 Y mae'r lotus yn gysgod drosto, a helyg yn y nant yn ei guddio. 23 Os cyfyd yr afon drosto, ni chynhyrfa; byddai'n ddifraw pe bai'r Iorddonen yn llifo i'w geg. 24 A ellir ei fachu yn ei lygaid, a gwthio tryfer i'w drwyn?