Welsh

Job

41

1 "A fedri di dynnu Lefiathan allan � bach, neu ddolennu rhaff am ei dafod? 2 A fedri di roi cortyn am ei drwyn, neu wthio bach i'w �n? 3 A wna ef ymbil yn daer arnat, neu siarad yn addfwyn � thi? 4 A wna gytundeb � thi, i'w gymryd yn was iti am byth? 5 A gei di chwarae ag ef fel ag aderyn, neu ei rwymo wrth dennyn i'th ferched? 6 A fydd masnachwyr yn bargeinio amdano, i'w rannu rhwng y gwerthwyr? 7 A osodi di bigau haearn yn ei groen, a bachau pysgota yn ei geg? 8 Os gosodi dy law arno, fe gofi am yr ysgarmes, ac ni wnei hyn eto. 9 Yn wir twyllodrus yw ei lonyddwch; onid yw ei olwg yn peri arswyd? 10 Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu; a phwy a all sefyll o'i flaen? 11 Pwy a ddaw ag ef ataf, imi gael rhoi gwobr iddo o'r cyfan sydd gennyf dan y nef? 12 Ni pheidiaf � s�n am ei aelodau, ei gryfder a'i ffurf gytbwys. 13 Pwy a all agor ei wisg uchaf, neu drywanu ei groen dauddyblyg? 14 Pwy a all agor dorau ei geg, a'r dannedd o'i chwmpas yn codi arswyd? 15 Y mae ei gefn fel rhesi o darianau wedi eu cau'n dynn � s�l. 16 Y maent yn gl�s wrth ei gilydd, heb fwlch o gwbl rhyngddynt. 17 Y mae'r naill yn cydio mor dynn wrth y llall, fel na ellir eu gwahanu. 18 Y mae ei disian yn gwasgaru mellt, a'i lygaid yn pefrio fel y wawr. 19 Daw fflachiadau allan o'i geg, a thasga gwreichion ohoni. 20 Daw mwg o'i ffroenau, fel o grochan yn berwi ar danllwyth. 21 Y mae ei anadl yn tanio cynnud, a daw fflam allan o'i geg. 22 Y mae cryfder yn ei wddf, ac arswyd yn rhedeg o'i flaen. 23 Y mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd, ac mor galed amdano fel na ellir eu symud. 24 Y mae ei galon yn gadarn fel craig, mor gadarn � maen melin. 25 Pan symuda, fe ofna'r cryfion; �nt o'u pwyll oherwydd su373?n y rhwygo. 26 Os ceisir ei drywanu �'r cleddyf, ni lwyddir, nac ychwaith �'r waywffon, dagr, na'r bicell. 27 Y mae'n trafod haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru. 28 Ni all saeth wneud iddo ffoi, ac y mae'n trafod cerrig-tafl fel us. 29 Fel sofl yr ystyria'r pastwn, ac y mae'n chwerthin pan chwibana'r bicell. 30 Oddi tano y mae fel darnau miniog o lestri, a gwna rychau fel og ar y llaid. 31 Gwna i'r dyfnder ferwi fel crochan; gwna'r m�r fel eli wedi ei gymysgu. 32 Gedy lwybr gwyn ar ei �l, a gwna i'r dyfnder ymddangos yn benwyn. 33 Nid oes tebyg iddo ar y ddaear, creadur heb ofn dim arno. 34 Y mae'n edrych i lawr ar bopeth uchel; ef yw brenin yr holl anifeiliaid balch."