Welsh

Job

42

1 Dywedodd Job wrth yr ARGLWYDD: 2 "Gwn dy fod yn gallu gwneud popeth, ac nad oes dim yn amhosibl i ti. 3 Meddi, 'Pwy yw hwn sy'n cuddio deall � geiriau diwybod?' Yn wir, rwyf wedi mynegi pethau nad oeddwn yn eu deall, pethau rhyfeddol, tu hwnt i'm dirnad. 4 Yn awr gwrando, a gad i mi lefaru; fe holaf fi di, a chei dithau f'ateb. 5 Trwy glywed yn unig y gwyddwn amdanat, ond yn awr rwyf wedi dy weld �'m llygaid fy hun. 6 Am hynny rwyf yn fy ffieiddio fy hunan, ac yn edifarhau mewn llwch a lludw." 7 Ar �l i'r ARGLWYDD lefaru'r geiriau hyn wrth Job, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eliffas y Temaniad, "Yr wyf yn ddig iawn wrthyt ti a'th ddau gyfaill am nad ydych wedi dweud yr hyn sy'n iawn amdanaf, fel y gwnaeth fy ngwas Job. 8 Yn awr cymerwch saith ych a saith hwrdd, ac ewch at fy ngwas Job, i offrymu poethoffrwm drosoch eich hunain. Fe wedd�a fy ngwas Job drosoch; gwrandawaf finnau arno, ac ni ddialaf arnoch am eich ffolineb, am ichwi beidio � llefaru yn iawn amdanaf, fel y gwnaeth fy ngwas Job." 9 Yna aeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad a Soffar y Naamathiad, a gwneud fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt; a gwrandawodd yr ARGLWYDD ar Job. 10 Wedi i Job wedd�o dros ei gyfeillion, adferodd yr ARGLWYDD iddo ei lwyddiant, a rhoi'n �l i Job ddwywaith yr hyn oedd ganddo o'r blaen. 11 Yna aeth ei frodyr a'i chwiorydd i gyd, a'r holl gyfeillion oedd ganddo gynt, i fwyta gydag ef yn ei du375?, ac i'w gysuro a'i ddiddanu am y drwg a ddygodd yr ARGLWYDD arno. A rhoddodd pob un ohonynt ddarn arian a modrwy aur iddo. 12 Bendithiodd yr ARGLWYDD ddiwedd oes Job yn fwy na'i dechrau: yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o fustych a mil o asennod. 13 Hefyd yr oedd ganddo saith mab a thair merch. 14 Enwodd yr hynaf ohonynt yn Jemima, yr ail yn Cesia, a'r drydedd yn Cerenhapuch. 15 Nid oedd merched prydferthach na merched Job drwy'r holl wlad, a rhoes Job etifeddiaeth iddynt hwy yn ogystal ag i'w brodyr. 16 Bu Job fyw gant a deugain o flynyddoedd ar �l hyn, a chafodd weld ei blant a phlant ei blant hyd at bedair cenhedlaeth. 17 Bu farw Job yn hen iawn, mewn gwth o oedran.