1 Gwyn ei fyd y sawl nad yw'n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr, 2 ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. 3 Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau du373?r ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a'i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda. 4 Nid felly y bydd y drygionus, ond fel us yn cael ei yrru gan wynt. 5 Am hynny, ni saif y drygionus yn y farn na phechaduriaid yng nghynulleidfa'r cyfiawn. 6 Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffordd y cyfiawn, ond y mae ffordd y drygionus yn darfod.