Welsh

Psalms

2

1 Pam y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r bobloedd yn cynllwyn yn ofer? 2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn barod, a'r llywodraethwyr yn ymgynghori �'i gilydd yn erbyn yr ARGLWYDD a'i eneiniog: 3 "Gadewch inni ddryllio eu rhwymau, a thaflu ymaith eu rheffynnau." 4 Fe chwardd yr un sy'n eistedd yn y nefoedd; y mae'r Arglwydd yn eu gwatwar. 5 Yna fe lefara wrthynt yn ei lid a'u dychryn yn ei ddicter: 6 "Yr wyf fi wedi gosod fy mrenin ar Seion, fy mynydd sanctaidd." 7 Adroddaf am ddatganiad yr ARGLWYDD. Dywedodd wrthyf, "Fy mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw; 8 gofyn, a rhoddaf iti'r cenhedloedd yn etifeddiaeth, ac eithafoedd daear yn eiddo iti; 9 fe'u drylli � gwialen haearn a'u malurio fel llestr pridd." 10 Yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth; farnwyr y ddaear, cymerwch gyngor; 11 gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn, mewn cryndod cusanwch ei draed, 12 rhag iddo ffromi ac i chwi gael eich difetha; oherwydd fe gyneua ei lid mewn dim. Gwyn eu byd y rhai sy'n llochesu ynddo.