1 Yna atebodd Eliffas y Temaniad: 2 "Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd? Eto pwy a all atal geiriau? 3 Wele, buost yn cynghori llawer ac yn nerthu'r llesg eu dwylo; 4 cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig, a chadarnhau'r gliniau gwan. 5 Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd; cyffyrddodd � thi, ac yr wyt mewn helbul. 6 Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti, ac uniondeb dy fywyd yn obaith? 7 Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog, a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr? 8 Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbul ac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi. 9 Difethir hwy gan anadl Duw, a darfyddant wrth chwythiad ei ffroenau. 10 Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf; pydra dannedd y llewod ifanc. 11 Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth, a gwneir yn amddifad genawon y llewes. 12 "Daeth gair ataf fi yn ddirgel; daliodd fy nghlust sibrwd ohono 13 yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos, pan ddaw trymgwsg ar bawb. 14 Daeth dychryn a chryndod arnaf, a chynhyrfu fy holl esgyrn. 15 Llithrodd awel heibio i'm hwyneb, a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll. 16 Safodd yn llonydd, ond ni allwn ddirnad beth oedd; yr oedd ffurf o flaen fy llygaid; bu distawrwydd, yna clywais lais: 17 'A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw, ac yn burach na'i Wneuthurwr? 18 Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision, ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd, 19 beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai, a'u sylfeini mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn? 20 Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr, llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi. 21 Pan ddatodir llinyn eu pabell, oni fyddant farw heb ddoethineb?'