1 "Galw'n awr; a oes rhywun a'th etyb? At ba un o'r rhai sanctaidd y gelli droi? 2 Y mae dicter yn lladd yr ynfyd, a chenfigen yn dwyn angau i'r ff�l. 3 Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd, ond ar fyrder melltithiwyd ei drigfan; 4 ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared, wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub. 5 Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef, ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain; ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth. 6 Canys nid o'r pridd y daw gofid, nac o'r ddaear orthrymder; 7 ond genir dynion i orthrymder, cyn sicred ag y tasga'r gwreichion. 8 "Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i, a gosod fy achos o'i flaen ef, 9 yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, rhyfeddodau dirifedi. 10 Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear, a'r dyfroedd ar y meysydd. 11 Y mae'n codi'r rhai isel i fyny, a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch. 12 Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys; ni all eu dwylo wneud dim o fudd. 13 Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra, a buan y diflanna cynllun y dichellgar. 14 Brwydrant � thywyllwch hyd yn oed liw dydd, ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos. 15 Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael, a'r truan o afael y cryf. 16 Am hynny y mae gobaith i'r tlawd, ac anghyfiawnder yn cau ei safn. 17 "Dedwydd y sawl a gerydda Duw, ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog. 18 Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur; ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth. 19 Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder; ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat. 20 Fe'th achub di rhag marw mewn newyn, a rhag y cleddyf mewn brwydr. 21 Cei loches rhag ffrewyll y tafod, ac nid ofni'r dinistr pan ddaw. 22 Chwerddi ar ddinistr a newyn, ac ni'th ddychrynir gan fwystfil gwyllt. 23 Byddi mewn cynghrair � cherrig y tir, a bydd y bwystfil gwyllt mewn heddwch � thi. 24 Yna gweli fod dy babell yn ddiogel, a phan rifi dy ddiadell, ni bydd un ar goll. 25 Canfyddi hefyd mai niferus yw dy dylwyth, a'th epil fel gwellt y maes. 26 Ei i'r bedd mewn henaint teg, fel y cesglir ysgub yn ei phryd. 27 Chwiliasom hyn yn ddyfal, ac y mae'n wir; gwrando dithau arno, a deall drosot dy hun."