1 Atebodd Job: 2 "O na ellid pwyso fy nhrallod, a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian! 3 Yna byddai'n drymach na thywod y m�r; am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll. 4 Y mae saethau'r Hollalluog ynof; yfodd fy ysbryd eu gwenwyn; dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf. 5 A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt? A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant? 6 A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen? A oes blas ar sudd y malws? 7 Y mae fy stumog yn eu gwrthod; y maent fel pydredd fy nghnawd. 8 "O na dd�i fy nymuniad i ben, ac na chyflawnai Duw fy ngobaith! 9 O na ryngai fodd i Dduw fy nharo, ac estyn ei law i'm torri i lawr! 10 Byddai o hyd yn gysur imi, a llawenhawn yn yr ing diarbed (nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct). 11 Pa nerth sydd gennyf i obeithio, a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar? 12 Ai nerth cerrig yw fy nerth? Ai pres yw fy nghnawd? 13 Wele, nid oes imi gymorth ynof, a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf. 14 Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf, er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog. 15 Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol; fel nentydd sy'n gorlifo, 16 yn dywyll gan rew, ac eira yn cuddio ynddynt. 17 Ond pan ddaw poethder fe beidiant, ac yn y gwres diflannant o'u lle. 18 Troella'r carafanau yn eu ffyrdd, crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy. 19 Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt, a marsiand�wyr Sheba yn disgwyl wrthynt. 20 Cywilyddir hwy yn eu hyder; d�nt atynt, ac fe'u siomir. 21 Felly yr ydych chwithau i mi; gwelwch drychineb, a dychrynwch. 22 A ddywedais o gwbl, 'Rhowch imi, ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth; 23 achubwch fi o afael y gelyn, a rhyddhewch fi o afael gormeswyr'? 24 "Hyfforddwch fi, a thawaf; a dangoswch imi sut y cyfeiliornais. 25 Mor ddiflas yw geiriau uniawn! Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi? 26 A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau, gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt? 27 A fwriech goelbren am yr amddifad, a tharo bargen am un o'ch cyfeillion? 28 Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf; ai celwydd a ddywedaf yn eich gu373?ydd? 29 Trowch; na foed anghyfiawnder. Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad. 30 A oes anghyfiawnder ar fy nhafod? Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas?