1 "Onid llafur caled sydd i ddyn ar y ddaear, a'i ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog? 2 Fel caethwas yn dyheu am gysgod, a gwas yn disgwyl am ei d�l, 3 felly y daeth misoedd ofer i'm rhan innau, a threfnwyd imi nosweithiau gofidus. 4 Pan orweddaf, dywedaf, 'Pa bryd y caf godi?' Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr. 5 Gorchuddiwyd fy nghnawd gan bryfed a budreddi; crawniodd fy nghroen, ac yna torri allan. 6 Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd; darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben. 7 "Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl; ni w�l fy llygaid ddaioni eto. 8 Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gw�l; ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti. 9 Fel y cilia'r cwmwl a diflannu, felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno; 10 ni ddaw eto i'w gartref, ac nid edwyn ei le mohono mwy. 11 "Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau; llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd, cwynaf yn chwerwder fy enaid. 12 Ai'r m�r ydwyf, neu'r ddraig, gan dy fod yn gosod gwyliwr arnaf? 13 "Pan ddywedaf, 'Fy ngwely a rydd gysur imi; fy ngorweddfa a liniara fy nghwyn', 14 yr wyt yn fy nychryn � breuddwydion, ac yn f'arswydo � gweledigaethau. 15 Gwell fyddai gennyf fy nhagu, a marw yn hytrach na goddef fy mhoen. 16 Rwy'n ddiobaith; ni ddymunaf fyw am amser maith. Gad lonydd imi, canys y mae fy nyddiau fel anadl. 17 Beth yw meidrolyn i ti ei ystyried, ac iti roi cymaint o sylw iddo? 18 Yr wyt yn ymweld ag ef bob bore, ac yn ei brofi bob eiliad. 19 Pa bryd y peidi ag edrych arnaf, ac y rhoi lonydd imi lyncu fy mhoeri? 20 Os pechais, beth a wneuthum i ti, O wyliwr dynolryw? Pam y cymeraist fi'n nod, nes fy mod yn faich i mi fy hun? 21 Pam na faddeui fy nhrosedd a symud fy mai? Yn awr rwy'n gorwedd yn y llwch, ac er i ti chwilio amdanaf, ni fyddaf ar gael."