Welsh

Job

8

1 Yna atebodd Bildad y Suhiad: 2 "Am ba hyd y lleferi fel hyn, a chymaint o ymffrost yn dy eiriau? 3 A yw Duw yn gwyrdroi barn? A yw'r Hollalluog yn gwyro cyfiawnder? 4 Pan bechodd dy feibion yn ei erbyn, fe'u trosglwyddodd i afael eu trosedd. 5 Os ceisi di Dduw yn ddyfal, ac ymbil ar yr Hollalluog, 6 ac os wyt yn bur ac uniawn, yna fe wylia ef drosot, a'th adfer i'th safle o gyfiawnder. 7 Pe byddai dy ddechreuad yn fychan, byddai dy ddiwedd yn fawr. 8 "Yn awr gofyn i'r oes a fu, ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid. 9 Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus u375?m, a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear. 10 Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt, a rhoi atebion deallus? 11 A dyf brwyn lle nad oes cors? A ffynna hesg heb ddu373?r? 12 Er eu bod yn ir a heb eu torri, eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion. 13 Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw, ac y derfydd gobaith yr annuwiol. 14 Edau frau yw ei hyder, a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn. 15 Pwysa ar ei du375?, ond ni saif; cydia ynddo, ond ni ddeil. 16 Bydd yn ir yn llygad yr haul, yn estyn ei frigau dros yr ardd; 17 ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig, a daw i'r golwg rhwng y meini. 18 Ond os diwreiddir ef o'i le, fe'i gwedir: 'Ni welais di'. 19 Gwywo felly yw ei natur; ac yna tyf un arall o'r pridd. 20 "Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn, ac ni chydia yn llaw y drygionus. 21 Lleinw eto dy enau � chwerthin, a'th wefusau � gorfoledd. 22 Gwisgir dy elynion � gwarth, a diflanna pabell y drygionus."