Welsh

Jonah

1

1 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jona fab Amittai, a dweud, 2 "Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara yn ei herbyn; oherwydd daeth ei drygioni i'm sylw." 3 Ond cododd Jona i ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD i Tarsis. Aeth i lawr i Jopa a chael llong yn mynd i Tarsis, ac wedi talu ei dreuliau aeth arni i fynd gyda hwy i Tarsis oddi wrth yr ARGLWYDD. 4 Ond cododd yr ARGLWYDD wynt nerthol ar y m�r, a bu storm mor arw ar y m�r nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio. 5 Yr oedd y morwyr wedi dychryn, a phob un yn gweiddi ar ei dduw, a thaflasant y g�r oedd ar y llong i'r m�r i'w hysgafnu. Ond yr oedd Jona wedi mynd i grombil y llong i orwedd, ac wedi cysgu. 6 A daeth capten y llong ato a gofyn, "Beth yw dy feddwl, yn cysgu? Cod, a galw ar dy dduw; efallai y meddylia'r duw amdanom, rhag ein difetha." 7 Yna dywedodd y morwyr wrth ei gilydd, "O achos pwy y daeth y drwg hwn arnom? Gadewch inni fwrw coelbren, inni gael gwybod." Felly bwriasant goelbren, a syrthiodd y coelbren ar Jona. 8 Yna dywedasant wrtho, "Dywed i ni, beth yw dy neges? O ble y daethost? Prun yw dy wlad? O ba genedl yr wyt?" 9 Atebodd yntau hwy, "Hebr�wr wyf fi; ac yr wyf yn ofni'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, a wnaeth y m�r a'r sychdir." 10 A daeth ofn mawr ar y dynion, a dywedasant wrtho, "Beth yw hyn a wnaethost?" Oherwydd gwyddai'r dynion mai ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd, gan iddo ddweud hynny wrthynt. 11 Yna dywedasant, "Beth a wnawn � thi, er mwyn i'r m�r ostegu inni, oherwydd y mae'n gwaethygu o hyd." 12 Atebodd yntau, "Cymerwch fi a'm taflu i'r m�r, ac yna fe dawela'r m�r ichwi; oherwydd gwn mai o'm hachos i y daeth y storm arw hon arnoch." 13 Rhwyfodd y dynion yn galed i gyrraedd tir, ond ni allent, gan fod y m�r yn gwaethygu o hyd yn eu herbyn. 14 Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, paid � gadael inni gael ein difetha am fywyd y dyn hwn, na rhoi gwaed dieuog yn ein herbyn; ti yw'r ARGLWYDD, ac yr wyt yn gwneud fel y gweli'n dda." 15 Yna cymerasant Jona a'i daflu i'r m�r, a llonyddodd y m�r o'i gynnwrf. 16 Ac ofnodd y gwu375?r yr ARGLWYDD yn fawr iawn, gan offrymu aberth i'r ARGLWYDD a gwneud addunedau. 17 A threfnodd yr ARGLWYDD i bysgodyn mawr lyncu Jona; a bu Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.