1 Yna gwedd�odd Jona ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn a dweud, 2 "Gelwais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi; o ddyfnder Sheol y gwaeddais, a chlywaist fy llais. 3 Teflaist fi i'r dyfnder, i eigion y m�r, a'r llanw yn f'amgylchu; yr oedd dy holl donnau a'th lifeiriant yn mynd dros fy mhen. 4 Yna dywedais, 'Fe'm gyrrwyd allan o'th olwg di; sut y caf edrych eto ar dy deml sanctaidd?' 5 Caeodd y dyfroedd amdanaf, a'r dyfnder o'm cwmpas; clymodd y gwymon am fy mhen wrth wreiddiau'r mynyddoedd; 6 euthum i lawr i'r wlad y caeodd ei bolltau arnaf am byth. Eto, dygaist fy mywyd i fyny o'r pwll, O ARGLWYDD fy Nuw. 7 Pan deimlais fy hun yn llewygu, cofiais am yr ARGLWYDD, a daeth fy ngweddi atat i'th deml sanctaidd. 8 Y mae'r rhai sy'n addoli eilunod gwag yn gwadu eu teyrngarwch. 9 Ond aberthaf i ti � ch�n o ddiolch. Talaf yr hyn a addunedais; i'r ARGLWYDD y perthyn gwaredu." 10 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, a chwydodd yntau Jona ar y lan.