1 Clywodd Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai a'i difrodi a gwneud iddi hi a'i brenin yn union fel y gwnaeth i Jericho a'i brenin, a bod trigolion Gibeon wedi gwneud heddwch ag Israel, ac yn byw yn eu mysg. 2 Cododd hyn ofn mawr arno, oherwydd yr oedd Gibeon yn ddinas fawr fel un o'r dinasoedd brenhinol; yr oedd, yn wir, yn fwy nag Ai, a'i holl ddynion yn rhyfelwyr praff. 3 Anfonodd Adonisedec brenin Jerwsalem at Hoham brenin Hebron, Piram brenin Jarmuth, Jaffia brenin Lachis a Debir brenin Eglon, a dweud, 4 "Dewch i fyny i'm cynorthwyo i ymosod ar Gibeon am iddi wneud heddwch � Josua a'r Israeliaid." 5 Felly fe ymgynullodd pum brenin yr Amoriaid, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon, ac aethant hwy a'u holl luoedd i fyny a gwarchae ar Gibeon ac ymosod arni. 6 Ond anfonodd pobl Gibeon at Josua i'r gwersyll yn Gilgal a dweud, "Paid � gwrthod cynorthwyo dy weision, ond brysia i fyny atom i'n hachub a'n helpu, oherwydd y mae holl frenhinoedd yr Amoriaid sy'n byw yn y mynydd-dir wedi ymgasglu yn ein herbyn." 7 Aeth Josua i fyny o Gilgal, a chydag ef bob milwr a'r holl ryfelwyr dewr. 8 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, "Paid �'u hofni, oherwydd rhoddaf hwy yn dy law; ni fydd neb ohonynt yn sefyll o'th flaen." 9 Daeth Josua arnynt yn ddisymwth, ar �l teithio trwy'r nos o Gilgal. 10 Yna gyrrodd yr ARGLWYDD hwy ar chw�l o flaen Israel ac achosi lladdfa fawr yn eu mysg yn Gibeon, a'u hymlid ar hyd y ffordd i fyny at Beth-horon, a dal i'w taro hyd at Aseca a Macceda. 11 Fel yr oeddent yn ffoi o flaen Israel ar lechwedd Beth-horon, bwriodd yr ARGLWYDD arnynt genllysg breision o'r awyr bob cam i Aseca, a buont farw. Bu farw mwy o achos y cenllysg nag a laddwyd gan yr Israeliaid �'r cleddyf. 12 Y diwrnod y darostyngodd yr ARGLWYDD yr Amoriaid o flaen yr Israeliaid fe ganodd Josua i'r ARGLWYDD yng ngu373?ydd yr Israeliaid: "Haul, aros yn llonydd yn Gibeon, a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon." 13 Ac arhosodd yr haul yn llonydd, a safodd y lleuad, nes i'r genedl ddial ar ei gelynion. Y mae hyn wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Jasar. Safodd yr haul yng nghanol yr wybren, heb frysio i fachludo am ddiwrnod cyfan. 14 Ni fu diwrnod fel hwnnw na chynt nac wedyn, a'r ARGLWYDD yn gwrando ar lais meidrolyn; yn wir, yr ARGLWYDD oedd yn ymladd dros Israel. 15 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn �l i'r gwersyll yn Gilgal. 16 Ond yr oedd y pum brenin hynny wedi ffoi ac ymguddio mewn ogof yn Macceda. 17 Pan hysbyswyd Josua iddynt ddarganfod y pum brenin yn ymguddio mewn ogof yn Macceda, 18 dywedodd Josua, "Pentyrrwch feini mawrion ar geg yr ogof, a gosodwch ddynion i'w gwylio. 19 Peidiwch chwithau � sefyllian, ymlidiwch eich gelynion a'u goddiweddyd; peidiwch � gadael iddynt gyrraedd eu dinasoedd, gan fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi yn eich gafael." 20 Er i Josua a'r Israeliaid wneud lladdfa fawr iawn yn eu mysg a'u difa, dihangodd rhai ohonynt a chyrraedd y dinasoedd caerog. 21 Wedi hynny dychwelodd yr holl fyddin yn ddiogel i'r gwersyll at Josua yn Macceda, heb neb yn yngan gair yn erbyn yr Israeliaid. 22 Yna dywedodd Josua, "Agorwch geg yr ogof, a dewch �'r pum brenin allan ataf oddi yno." 23 Gwnaethant hynny, a dod �'r pum brenin allan ato, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon. 24 Wedi iddynt ddod �'r brenhinoedd hyn allan at Josua, galwodd yntau ar holl wu375?r Israel, a dweud wrth swyddogion y milwyr a fu'n ymdeithio gydag ef, "Dewch yma, gosodwch eich traed ar warrau'r brenhinoedd hyn." Aethant hwythau atynt a gosod eu traed ar eu gwarrau. 25 Yna dywedodd Josua wrthynt, "Peidiwch ag ofni na brawychu; byddwch yn gryf a dewr, oherwydd fel hyn y gwna'r ARGLWYDD i'r holl elynion y byddwch yn ymladd � hwy." 26 Wedi hyn trawodd Josua hwy'n farw a'u crogi ar bum coeden, a buont ynghrog ar y coed hyd yr hwyr. 27 Adeg machlud haul gorchmynnodd Josua eu tynnu i lawr oddi ar y coed, a bwriwyd hwy i'r ogof y buont yn ymguddio ynddi; gosodasant feini mawrion ar geg yr ogof, lle maent hyd heddiw. 28 Y diwrnod hwnnw goresgynnodd Josua Macceda a'i tharo hi a'i brenin �'r cleddyf, a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i frenin Macceda fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho. 29 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Macceda i Libna, ac ymosod arni. 30 Rhoddodd yr ARGLWYDD hi a'i brenin yn llaw Israel, a thrawodd Josua hi a phawb oedd ynddi �'r cleddyf, heb arbed neb; gwnaeth i'w brenin fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho. 31 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Libna i Lachis, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni. 32 Rhoddodd yr ARGLWYDD Lachis yn llaw Israel, ac fe'i gorchfygodd hi yr ail ddiwrnod a'i tharo hi a phawb oedd ynddi �'r cleddyf, yn union fel y gwnaeth i Libna. 33 Yna daeth Horam brenin Geser i fyny i gynorthwyo Lachis, ond trawodd Josua ef a'i fyddin, heb arbed neb. 34 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Lachis i Eglon, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni. 35 Goresgynnodd y bobl hi y diwrnod hwnnw a'i tharo �'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaed i Lachis. 36 Aeth Josua a holl Israel gydag ef i fyny o Eglon i Hebron, ac ymosod arni. 37 Goresgynnodd hi a tharo �'r cleddyf y ddinas, ei brenin, a'i maestrefi i gyd a phawb oedd ynddynt, heb arbed neb, ond ei difodi hi a phawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaeth i Eglon. 38 Yna trodd Josua a holl Israel gydag ef i gyfeiriad Debir ac ymosod arni. 39 Goresgynnodd hi a'i brenin a'i maestrefi i gyd, a'u lladd �'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i Debir a'i brenin fel yr oedd wedi gwneud i Hebron ac i Libna a'i brenin. 40 Gorchfygodd Josua y wlad i gyd: y mynydd-dir, y Negef, y Seffela a'r llechweddau, a hefyd eu holl frenhinoedd, heb arbed neb, ond lladd pob perchen anadl, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, Duw Israel. 41 Trawodd Josua hwy o Cades-barnea hyd at Gasa, ac o wlad Gosen i gyd hyd at Gibeon. 42 Goresgynnodd Josua yr holl frenhinoedd hyn a'u tiroedd mewn un cyrch am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ymladd dros Israel. 43 Yna fe ddychwelodd Josua a holl Israel gydag ef i'r gwersyll yn Gilgal.