Welsh

Joshua

11

1 Pan glywodd Jabin brenin Hasor, anfonodd at Jobab brenin Madon ac at frenhinoedd Simron ac Achsaff, 2 hefyd at y brenhinoedd oedd ym mynydd-dir y gogledd ac yn yr Araba i'r de o Cinneroth, ac yn y Seffela a Naffath-dor yn y gorllewin. 3 Yr oedd y Canaaneaid i'r dwyrain a'r gorllewin, a'r Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid a Jebusiaid yn y mynydd-dir, gyda'r Hefiaid dan Fynydd Hermon yn ardal Mispa. 4 Daethant allan, hwy a'u holl fyddinoedd, yn llu enfawr, mor niferus �'r tywod ar lan y m�r, gyda llawer iawn o feirch a cherbydau. 5 Wedi i'r holl frenhinoedd hyn ymgynnull, aethant a gwersyllu ynghyd ger Dyfroedd Merom er mwyn ymladd ag Israel. 6 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, "Paid �'u hofni, oherwydd tua'r adeg yma yfory byddaf yn rhoi pob un yn gelain gerbron Israel; byddi'n torri llinynnau garrau eu meirch ac yn llosgi eu cerbydau � th�n." 7 Daeth Josua a'r holl filwyr oedd gydag ef ar eu gwarthaf yn ddisymwth ger Dyfroedd Merom, a rhuthro arnynt. 8 Rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Israel; trawsant hwy, a'u hymlid hyd at Sidon Fawr a Misreffoth-maim, a dyffryn Mispa i'r dwyrain. Trawsant hwy, heb arbed neb. 9 Gwnaeth Josua iddynt fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho; torrodd linynnau garrau eu meirch a llosgodd eu cerbydau � th�n. 10 Y pryd hwnnw trodd Josua i gyfeiriad Hasor a'i goresgyn, a lladd ei brenin �'r cleddyf. Yr oedd Hasor gynt yn ben ar yr holl deyrnasoedd hynny. 11 Trawsant bawb oedd ynddi �'r cleddyf a'u lladd, heb arbed yr un perchen anadl, ac yna llosgi Hasor � th�n. 12 Goresgynnodd Josua bob un o ddinasoedd y brenhinoedd hyn yn ogystal �'u brenhinoedd; trawodd hwy �'r cleddyf a'u difodi, fel y gorchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD. 13 Ond am y dinasoedd oedd yn sefyll ar garneddau, ni losgodd Israel yr un ohonynt, ac eithrio Hasor, a losgwyd gan Josua. 14 Cymerodd yr Israeliaid holl anrhaith y dinasoedd hynny yn ysbail, gan gynnwys y gwartheg, ond trawsant y boblogaeth i gyd �'r cleddyf a'u lladd, heb arbed un perchen anadl. 15 Fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i'w was Moses, felly yr oedd Moses wedi gorchymyn i Josua; dyna a wnaeth Josua heb esgeuluso dim o'r cwbl a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 16 Gorchfygodd Josua y cwbl o'r wlad hon: y mynydd-dir, y Negef i gyd, holl wlad Gosen, y Seffela a'r Araba; hefyd mynydd-dir Israel a'r Seffela, 17 o Fynydd Halac sy'n codi tua Seir hyd at Baal-gad yn nyffryn Lebanon dan Fynydd Hermon. Gorchfygodd ei brenhinoedd i gyd, a'u taro a'u lladd. 18 Bu Josua'n ymladd �'r holl frenhinoedd hyn am amser maith. 19 Ni wnaeth yr un ddinas gytundeb heddwch �'r Israeliaid, heblaw'r Hefiaid oedd yn byw yn Gibeon; cymryd y cwbl trwy ryfel a wnaethant. 20 Yr ARGLWYDD oedd yn caledu eu calon i ryfela yn erbyn Israel, er mwyn iddynt eu difodi yn ddidrugaredd, ac yn wir eu distrywio fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 21 Y pryd hwnnw aeth Josua a difa'r Anacim o'r mynydd-dir o gwmpas Hebron, Debir, ac Anab, ac o holl fynydd-dir Jwda ac Israel; difododd Josua hwy a'u dinasoedd. 22 Ni adawyd Anacim ar �l yng ngwlad yr Israeliaid, ond yr oedd gweddill ohonynt ar �l yn Gasa, Gath ac Asdod. 23 Enillodd Josua yr holl wlad yn unol �'r cwbl a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, a rhoddodd Josua hi yn etifeddiaeth i Israel yn �l cyfrannau'r llwythau. A chafodd y wlad lonydd rhag rhyfel.