Welsh

Joshua

15

1 Yr oedd rhandir llwyth Jwda yn �l eu tylwythau yn ymestyn at derfyn Edom, yn anialwch Sin, ar gwr deheuol y Negef. 2 Yr oedd eu terfyn deheuol yn rhedeg o gwr eithaf y M�r Marw, o'r gilfach sy'n wynebu tua'r Negef, 3 ac ymlaen i'r de o riw Acrabbim heibio i Sin, yna i fyny i'r de o Cades-barnea, heibio i Hesron, i fyny at Addar ac yna troi am Carca. 4 Wedi mynd heibio i Asmon, dilynai derfyn nant yr Aifft, nes cyrraedd y m�r. Hwn oedd eu terfyn deheuol. 5 Y terfyn i'r dwyrain oedd y M�r Marw, cyn belled ag aber yr Iorddonen. Yr oedd y terfyn gogleddol yn ymestyn o gilfach y m�r, ger aber yr Iorddonen, 6 i fyny at Beth-hogla, gan gadw i'r gogledd o Beth-araba ac ymlaen at faen Bohan fab Reuben. 7 Yna �i'r terfyn o ddyffryn Achor i Debir, a thua'r gogledd i gyfeiriad Gilgal, sydd gyferbyn � rhiw Adummim i'r de o'r nant, a throsodd at ddyfroedd En-semes ac ymlaen at En-rogel. 8 Oddi yno �i'r terfyn i fyny dyffryn Ben-hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid, sef Jerwsalem, ac i ben y mynydd sy'n wynebu dyffryn Hinnom o'r gorllewin, yng nghwr gogleddol dyffryn Reffaim. 9 O ben y mynydd yr oedd y terfyn yn troi am ffynnon dyfroedd Nefftoa ac yna ymlaen at drefi Mynydd Effron, cyn troi am Baala, sef Ciriath-jearim. 10 O Baala yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin at Fynydd Seir ac yn croesi llechwedd gogleddol Mynydd Jearim, sef Cesalon, cyn disgyn at Beth-semes ac ymlaen at Timna. 11 Wedi hyn �i'r terfyn ymlaen hyd lechwedd gogleddol Ecron, yna mynd i gyfeiriad Sicceron, ymlaen at Fynydd Baala ac at Jabneel, nes cyrraedd y m�r. 12 Glannau'r M�r Mawr oedd y terfyn gorllewinol. Dyma'r terfyn o amgylch Jwda yn �l eu tylwythau. 13 Yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua, rhoddwyd i Caleb fab Jeffunne randir yn Jwda, sef Ciriath-arba, hynny yw Hebron; tad yr Anaciaid oedd Arba. 14 Gyrrodd Caleb allan oddi yno dri o'r Anaciaid, sef Sesai, Ahiman a Talmai, disgynyddion Anac. 15 Oddi yno ymosododd ar drigolion Debir; Ciriath�seffer oedd enw Debir gynt. 16 Dywedodd Caleb, "Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo." 17 Othniel fab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo. 18 Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, "Beth a fynni?" 19 Atebodd hithau, "Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef, rho imi hefyd ffynhonnau du373?r." Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf. 20 Dyma etifeddiaeth llwyth Jwda yn �l eu tylwythau. 21 Yng nghwr eithaf llwyth Jwda ar derfyn Edom yn y Negef, y trefi oedd Cabseel, Eder, Jagur, 22 Cina, Dimona, Adada, 23 Cedes, Hasor, Ithnan, 24 Siff, Telem, Bealoth, 25 Hasor, Hadatta, Cerioth, Hesron (sef Hasor), 26 Amam, Sema, Molada, 27 Hasar�gada, Hesmon, Beth-pelet, 28 Hasar�sual, Beerseba, Bisiothia, 29 Baala, Iim, Esem, 30 Eltolad, Cesil, Horma, Siclag, Madmanna, Sansanna, 31 Lebaoth, Silhim, Ain a Rimmon: 32 cyfanswm o naw ar hugain o drefi a'u pentrefi. 33 Yn y Seffela yr oedd Estaol, Sora, Asna, 34 Sanoa, En-gannim, Tappua, Enam, 35 Jarmuth, Adulam, Socho, Aseca, 36 Saaraim, Adithaim, Gedera a Gederothaim: pedair ar ddeg o drefi a'u pentrefi. 37 Senan, Hadasa, Migdal�gad, 38 Dilean, Mispe, Joctheel, 39 Lachis, Boscath, Eglon, 40 Cabbon, Lahmam, Cithlis, 41 Gederoth, Beth-dagon, Naama a Macceda: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi. 42 Libna, Ether, Asan, 43 Jiffta, Asna, Nesib, 44 Ceila, Achsib a Maresa: naw o drefi a'u pentrefi. 45 Ecron a'i maestrefi a'i phentrefi; 46 ac, i'r gorllewin o Ecron, y cwbl oedd yn ymyl Asdod, a'u pentrefi. 47 Asdod, ei maestrefi a'i phentrefi; Gasa, ei maestrefi a'i phentrefi at nant yr Aifft, ac at lan y M�r Mawr. 48 Yn y mynydd�dir yr oedd Samir, Jattir, Socho, 49 Danna, Ciriath-sannath (sef Debir), 50 Anab, Astemo, Anim, 51 Gosen, Holon a Gilo: un ar ddeg o drefi a'u pentrefi. 52 Arab, Duma, Esean, 53 Janum, Beth�tappua, Affeca, 54 Humta, Ciriath-arba (sef Hebron), a S�or: naw o drefi a'u pentrefi. 55 Maon, Carmel, Siff, Jutta, 56 Jesreel, Jocdeam, Sanoa, 57 Cain, Gibea, Timna: deg o drefi a'u pentrefi. 58 Halhul, Beth�sur, Gedor, 59 Maarath, Beth-anoth ac Eltecon: chwech o drefi a'u pentrefi. 60 Ciriath�baal, sef Ciriath-jearim, a Rabba: dwy dref a'u pentrefi. 61 Yn yr anialwch yr oedd Betharaba, Midin, Sechacha, 62 Nibsan, Dinas yr Halen ac En�gedi: chwech o drefi a'u pentrefi. 63 Ni allodd y Jwdeaid ddisodli'r Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem; felly y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Jwdeaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.