Welsh

Joshua

16

1 Yr oedd rhandir disgynyddion Joseff yn ymestyn o'r Iorddonen ger Jericho, i'r dwyrain o ddyfroedd Jericho, i'r anialwch ac i fyny o Jericho i fynydd-dir Bethel. 2 Yna �i o Fethel i Lus, a chroesi terfyn yr Arciaid yn Ataroth; 3 wedyn disgynnai tua'r gorllewin at derfyn y Jaffletiaid, cyn belled � therfyn Beth�horon Isaf a Geser, nes cyrraedd y m�r. 4 Hon oedd yr etifeddiaeth a gafodd Manasse ac Effraim, meibion Joseff. 5 Dyma derfyn yr Effraimiaid yn �l eu tylwythau: yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth yn ymestyn o Ataroth-adar yn y dwyrain hyd Beth�horon Uchaf; 6 yna �i ymlaen at y m�r, at Michmetha yn y gogledd, a throi i'r dwyrain o Taanath-seilo a mynd heibio iddi i'r dwyrain at Janoha. 7 �i i lawr o Janoha i Ataroth a Naarath, gan gyffwrdd � Jericho ac ymlaen at yr Iorddonen. 8 O Tappua �i'r terfyn tua'r gorllewin ar hyd nant Cana nes cyrraedd y m�r. Dyma etifeddiaeth llwyth Effraim yn �l eu tylwythau. 9 Yr oedd yn cynnwys hefyd y trefi a neilltuwyd i Effraim yng nghanol etifeddiaeth Manasse, yr holl drefi a'u pentrefi. 10 Ni ddisodlwyd y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser; felly y mae'r Canaaneaid yn byw ymysg yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ond eu bod dan lafur gorfod.