1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud wrthynt, 2 "Dywedwch wrth bobl Israel, 'O'r holl anifeiliaid sy'n byw ar y ddaear, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: 3 unrhyw anifail sy'n hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil, cewch fwyta hwnnw. 4 Y mae ambell un yn cnoi cil yn unig, ac un arall yn hollti'r ewin yn unig, ond nid ydych i fwyta'r rheini. Y mae'r camel yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi. 5 Y mae'r broch yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi. 6 Y mae'r ysgyfarnog yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi. 7 Y mae'r mochyn yn hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, ond heb gnoi cil, ac y mae'n aflan ichwi. 8 Nid ydych i fwyta eu cig na chyffwrdd �'u cyrff; y maent yn aflan ichwi. 9 "'O'r holl greaduriaid sy'n byw yn nu373?r y m�r neu'r afonydd, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen, cewch fwyta hwnnw. 10 Ond popeth sydd yn y moroedd neu'r afonydd heb esgyll na chen, boed yn ymlusgiad neu greadur arall sy'n byw yn y du373?r, y mae'n ffiaidd ichwi. 11 Gan eu bod yn ffiaidd ichwi, ni chewch fwyta eu cig, ac yr ydych i ffieiddio eu cyrff. 12 Y mae unrhyw beth yn y du373?r sydd heb esgyll na chen yn ffiaidd ichwi. 13 "'Dyma'r adar sydd yn ffiaidd ichwi, ac na chewch eu bwyta am eu bod yn ffiaidd: yr eryr, y fwltur, eryr y m�r, 14 y barcud, unrhyw fath o gudyll, 15 unrhyw fath o fr�n, 16 yr estrys, y fr�n nos, yr wylan, ac unrhyw fath o hebog, 17 y dylluan, y fulfran, y dylluan wen, 18 y gigfran, y pelican, y fwltur mawr, 19 y ciconia, unrhyw fath o gr�yr, y gornchwiglen a'r ystlum. 20 "'Y mae unrhyw bryf adeiniog sy'n ymlusgo ar bedwar troed yn ffiaidd ichwi. 21 Ond y mae rhai pryfed adeiniog sy'n ymlusgo ar bedwar troed y cewch eu bwyta: y rhai sydd � chymalau yn eu coesau i sboncio ar y ddaear. 22 o'r rhain cewch fwyta unrhyw fath ar locust, ceiliog rhedyn, criciedyn neu sioncyn gwair. 23 Ond y mae pob pryf adeiniog arall sy'n ymlusgo ar bedwar troed yn ffiaidd ichwi. 24 "'Byddwch yn eich halogi eich hunain trwy'r rhain; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd �'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr. 25 Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr. 26 "'Y mae unrhyw anifail sydd heb hollti'r ewin a'i fforchi i'r pen, a heb gnoi cil, yn aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd �'u cyrff yn aflan. 27 o'r holl greaduriaid sy'n cerdded ar eu pedwar, y mae'r rhai sy'n cerdded ar eu pawennau yn aflan i chwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd �'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr. 28 Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; y maent yn aflan ichwi. 29 "'O'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear, y mae'r rhain yn aflan ichwi: y wenci, y llygoden, pob math ar lysard, 30 y geco, y llyffant, y genau-goeg, y lysard melyn a'r fadfall. 31 o'r rhai sy'n ymlusgo ar y ddaear, dyna'r rhai sy'n aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd � hwy wedi iddynt farw yn aflan hyd yr hwyr. 32 A bydd unrhyw beth y syrth un ohonynt arno wedi iddo farw, yn aflan, boed o goed, brethyn, croen neu sachliain, i ba beth bynnag y defnyddir ef; rhaid ei roi mewn du373?r, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; yna bydd yn l�n. 33 Os syrth un ohonynt i lestr pridd, bydd popeth sydd ynddo yn aflan a rhaid torri'r llestr. 34 Y mae unrhyw fwyd y gellir ei fwyta, ond sydd � du373?r o'r llestri arno, yn aflan; ac y mae unrhyw ddiod y gellir ei hyfed o'r llestr yn aflan. 35 Y mae unrhyw beth y syrth rhan o'u cyrff arno yn aflan, a rhaid ei ddryllio, boed ffwrn neu badell, gan ei fod yn aflan, ac yr ydych i'w ystyried yn aflan. 36 Eto y mae ffynnon neu bydew i gronni du373?r yn l�n; y peth sy'n cyffwrdd �'u cyrff sy'n aflan. 37 Os bydd un o'r cyrff yn disgyn ar unrhyw had sydd i'w blannu, y mae'n l�n; 38 ond os bydd du373?r ar yr had a'r corff yn disgyn arno, bydd yn aflan ichwi. 39 "'Os bydd un o'r anifeiliaid y cewch eu bwyta yn marw, bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd �'i gorff yn aflan hyd yr hwyr; 40 rhaid i unrhyw un sy'n bwyta peth o'r corff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn y corff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr. 41 "'Y mae unrhyw ymlusgiad sy'n ymlusgo ar y ddaear yn ffiaidd; ni ddylid ei fwyta. 42 Peidiwch � bwyta unrhyw ymlusgiad sy'n ymlusgo ar y ddaear, boed yn symud ar ei dor, neu'n cerdded ar bedwar troed neu ar amryw draed; y mae'n ffiaidd. 43 Peidiwch �'ch gwneud eich hunain yn ffiaidd trwy'r un o'r ymlusgiaid sy'n ymlusgo; a pheidiwch �'ch halogi eich hunain trwyddynt na'ch cael yn aflan o'u plegid. 44 Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; ymgysegrwch a byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd wyf fi. Peidiwch �'ch halogi eich hunain trwy'r un o'r ymlusgiaid sy'n ymlusgo ar y ddaear. 45 Myfi yw'r ARGLWYDD a ddaeth � chwi i fyny o'r Aifft i fod yn Dduw ichwi; byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd wyf fi. 46 "'Dyma'r ddeddf ynglu375?n �'r anifeiliaid, yr adar, y creaduriaid byw sy'n llusgo trwy'r dyfroedd a'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear, 47 er mwyn ichwi wahaniaethu rhwng yr aflan a'r gl�n, a rhwng y creaduriaid byw y gellir eu bwyta a'r rhai na ellir eu bwyta.'"