Welsh

Leviticus

12

1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud, 2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Bydd gwraig sy'n beichiogi ac yn geni mab yn aflan am saith diwrnod, yn union fel y mae'n aflan yn nyddiau ei misglwyf. 3 Ar yr wythfed dydd enwaeder ar y bachgen. 4 Yna bydd y wraig yn disgwyl tri ar ddeg ar hugain o ddyddiau am buro ei gwaed; nid yw i gyffwrdd � dim sanctaidd nac i fynd i'r cysegr nes y bydd dyddiau'r puro trosodd. 5 Os bydd yn geni merch, yna bydd yn aflan am bythefnos, fel y mae yn ei misglwyf; bydd yn disgwyl chwech a thrigain o ddyddiau am buro ei gwaed. 6 "'Pan fydd dyddiau'r puro am fab neu ferch trosodd, y mae i ddod at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod gydag oen gwryw yn boethoffrwm a chyw colomen neu durtur yn aberth dros bechod. 7 Bydd yntau'n eu cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD i wneud cymod drosti, ac yna bydd yn l�n oddi wrth ei gwaedlif. Dyma'r ddeddf ynglu375?n � gwraig yn geni mab neu ferch. 8 "'Os na all fforddio oen, gall ddod � dwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn boethoffrwm a'r llall yn aberth dros bechod; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosti, a bydd yn l�n.'"